Amdanom

Croeso cynnes i Hufenfa De Arfon; Cwmni Ffermwyr Llaeth Cydweithredol hynaf a mwyaf Cymru a sefydlwyd yn ôl yn 1938 gan ffermwyr llaeth.

Wedi ei lleoli ym Mhenrhyn Llŷn yng Ngogledd Orllewin Cymru, mewn ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Hufenfa De Arfon yw calon y gymuned. Mae aelodau ein Cwmni Ffermwyr Llaeth teuluol wedi eu lleoli yng Ngogledd Cymru, y Canolbarth a Cheredigion. Maent yn cynhyrchu llaeth o safon arbennig i ni, diolch i’r gwartheg sy’n pori ar borfeydd ffrwythlon Cymru.

Gan ein bod yn defnyddio llaeth Cymreig lleol, sydd wedi ei gydnabod ymhlith y gorau un, ac wedi datblygu sgiliau a chasglu gwybodaeth dros y cenedlaethau, gallwn gynhyrchu caws Cymreig a menyn Cymreig o safon arbennig. Mae ein cynhyrchion wedi derbyn cydnabyddiaeth nifer o wobrau arwyddocaol, yn cynnwys Gwobrau Caws Rhyngwladol, Gwobrau Caws Prydain, Gwobrau Caws Byd-Eang a Gwobrau Caws y Byd. Mae gennym amrywiaeth eang o gaws a gyflenwir i farchnad leol Cymru, y archfarchnadoedd mawr ledled Prydain ac i’r farchnad ryngwladol.

Ymfalchïwn yn ein gwreiddiau Cymreig, gymaint felly rydym yn glynu wrth bolisi i brosesu llaeth Cymreig yn unig. Mae ein pecynnau yn ddwyieithog ac mae gennym frand caws a menyn llwyddiannus ein hunain a elwir yn ‘Dragon’ (www.dragonwales.co.uk)

Gan fod ein ffermwyr yn aelodau mae ganddynt lais i benderfynu dyfodol yr Hufenfa, ac mae ganddynt gyfranddaliadau yn y Cwmni hefyd.

Mwy gan HDA