Hanes y Cwmni
Mae stori Hufenfa De Arfon yn dechrau yn ôl yn 1938 pan gafodd John Owen Roberts weledigaeth i weld ffermwyr llaeth yn cydweithio i farchnata eu llaeth eu hunain. Bryd hynny roedd ffermwyr yn amharod i ymrwymo gan fod cwmnïau cydweithredol eraill yn yr ardal wedi bod yn aflwyddiannus. Yn ychwanegol, roedd amharodrwydd ymhlith y ffermwyr a werthai eu llaeth yn uniongyrchol i’r bobl leol yn nhrefi a phentrefi Penrhyn Llŷn; gwelwyd y cwmni cydweithredol fel bygythiad i’w bywoliaeth hwy. Yn ôl yn 1938 roedd yr aelodaeth yn 63 o gynhyrchwyr ansicr.
Ystyriwyd safle’r Hufenfa yn ofalus. Dewiswyd Rhydygwystl oherwydd ei leoliad hwylus, ar y cyrion rhwng Llŷn ac Eifionydd yng Ngogledd Orllewin Cymru. Roedd y ddwy ardal, ac yn parhau i fod, yn adnabyddus am dyfiant da ei phorfeydd yn sgil yr awelon ysgafn a ddeuai o gwlff yr Iwerydd. Roedd hen felin wlân ar y safle (lle mae’r labordy heddiw) a oedd yn le perffaith i letya’r offer prosesu llaeth a phasteureuddiwr cyntaf y wlad. Hyd yn oed yn y dyddiau cynnar sylweddolai’r Cyfarwyddwyr fanteision buddsoddi yn nhechnoleg gorau a mwyaf modern y cyfnod; rhywbeth sy’n parhau yn wir yma heddiw.
Cyfnod y Rhyfel
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, rhoddwyd y llaeth mewn caniau llaeth yn ddyddiol a’u cludo ar y rheilffordd o Chwilog ger llaw yn uniongyrchol iddinasoedd Gogledd Orllewin Lloegr. Rhoddodd y busnes yma hwb gwerthfawr i’r Hufenfa gan ei fod yn creu elw ychwanegol y gellid ei ddosbarthu fel bonws i’r aelodau.
Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, sylweddolodd y llywodraeth pa mor agos fu’r wlad i newyn yn ystod y cyfnod rhyfel pum mlynedd. Eu hymateb oedd annog a chefnogi cynhyrchiant amaethyddol. Ar ôl y rhyfel, anogwyd ffermwyr i wella’r tir, da byw a chnydau a chafodd hynny effaith aruthrol ar Gwmni Ffermwyr Llaeth Cydweithredol fel Hufenfa De Arfon. Erbyn 1954, roedd aelodaeth y Gydweithfa wedi cynyddu i 1,200.
Y 1950au
Yn ystod y cyfnod yma sefydlodd yr Hufenfa ddau is-gwmni: Masnachwyr Llŷn ac Eifion a werthai llaeth yn uniongyrchol drwy’r dynion llefrith i gartrefi a busnesau lleol yr ardal; ac Wyau Hufenfa De Arfon a gyflenwai cywennod a wyau o ffermydd yr aelodau i’w gwerthu ymlaen gan y dynion llefrith.
Gwellodd cynhyrchiant llaeth a safon yn drawiadol at ddiwedd y 1950au ac eto roedd Hufenfa De Arfon yn arwain y ffordd ac yn talu’r ffermwyr i gynhyrchu llaeth glanach ac o safon uwch.
Cynhyrchiant Caws yn 1959
Cyrhaeddodd cynhyrchiant llaeth ei uchelfan a phenderfynwyd yn y 1950au hwyr bod gwneud caws yn opsiwn da i’r llaeth oedd dros ben. Cychwynnodd y safle gynhyrchu yn 1959 gan greu brand ‘Caws Llŷn’. Profodd yn frand poblogaidd sy’n parhau yn gyfarwydd yn lleol hyd heddiw.
Heddiw gwneir 17,000 tunnell o gaws ar safle yn flynyddol.
60 mlynedd o wneud caws
Rydym yn enwog am gynhyrchu cheddar o safon dda, fodd bynnag dros y 50 mlynedd olaf mae’r Hufenfa wedi bod yn cynhyrchu gwahanol gawsiau:
- Yn gynnar yn 1970au cynhyrchwyd Feta i’w allforio i wlad Groeg!
- Yn hwyr yn 1970au aeth Idwal Lloyd Jones, Rheolwr Cyffredinol ar y pryd i Wisconsin yn UDA gan ddychwelyd gyda rysáit caws newydd – Monterey Jack. Bu’r caws yma yn llwyddiant mawr a daeth yn frand pwysig.
- Lansiwyd Cheddar ‘Lighter’ yn 2012, 30% yn llai mewn braster ac yn rhan o’r cynnyrch Dragon.
- Heddiw, mae’r amrywiaeth yn eang: dewis o Cheddar, o’r mwyn a’r hufennog i’r clasurol sy’n cael ei aeddfedu ar y safle hyd at 18 mis. Cawsiau tiriogaethol fel Double Gloucester, Red Leicester ac wrth gwrs, Caerffili Cymreig.
Mwy am Fenyn
Am gryn amser, cynhyrchai Hufenfa De Arfon fenyn, “Menyn Eifion”. Yn 2011 buddsoddwyd mewn buddai fenyn traddodiadol unwaith eto. Sicrhaodd y buddsoddiad £350,000 bod modd gwneud menyn Cymreig yn y dull mwyaf traddodiadol posib i ddarparu hyblygrwydd rysáit a lefelau halen.
Gwobr am amaeth
Mae Hufenfa De Arfon wedi cael ei chydnabod fel Cwmni Cydweithredol sydd ar y blaen ac yn un sydd wedi bod yn ffyddlon i’w haelodau, sydd wedi gweithio’n galed i sicrhau llwyddiant.
Yn gynnar yn y 1970au, derbyniodd J.O. Roberts, sylfaenydd y Cwmni MBE am ei wasanaeth i amaeth Cymru ac ei ragwelediad a chyrch i sefydlu Cwmni Llaeth Cydweithredol llwyddiannus.
Erys Hufenfa De Arfon ar ei safle gwreiddiol ger Chwilog ar gyrion prydferthwch Penrhyn Llŷn.