Safonau
Mae ansawdd yn hollbwysig yn Hufenfa De Arfon ac mae ein haelodau yn adnabyddus am gyflenwi llaeth o safon uchel iawn.
Ymfalchïwn ein bod yn prosesu cynhyrchion llaeth Cymreig o’r safon orau a meddwn ar y safonau cenedlaethol angenrheidiol sy’n achredu safon. Dilynwn y safonau cydnabyddedig ym mhob proses sy’n rhoi hyder diguro i’r cwsmer.
Safon Bwyd BRC Byd Eang
Gradd AA - dyma'r safon uchaf posib

Tractor Coch
Mae'r logo Tractor Coch yn ffordd syml i bobl weld bod y bwyd a'r diod wedi cael ei gynhyrchu i safonau uchel ar draws y gadwyn fwyd i gyd - o'r fferm i'r pecyn.
Y Ddraig Werdd Lefel 4
Mae safon y Ddraig Werdd yn rhoi sylw i systemau rheoli amgylcheddol y Cwmni ac yn dangos beth rydym yn ei wneud i leihau y niwed i’r amgylchedd. Yn Hufenfa De Arfon, sicrheir fod pawb yn gyfrifol am reoli, gwella a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.
Datganiad Amgylcheddol
Fel cwmni, rydym wedi ymrwymo i ddiogelu'r amgylchedd. Mae'r ddogfen hon yn amlinellu'r datganiad amgylcheddol ar gyfer Hufenfa De Arfon Cyf
Archwiliadau ac Achrediadau Archfarchnad
Yn ychwanegol i'r achrediadau uchod rydym yn hapus iawn i gwblhau archwiliadau archfarchnadoedd unigol fel bo angen i gyflenwi cynhyrchion eu label nhw.