Blwyddyn o Wobrau
Mae wedi bod yn flwyddyn o wobrau di-ri i gydweithfa ffermwyr llaeth hynaf a mwyaf Cymru, Hufenfa De Arfon. Rydym yn hapus dros ben gyda’r casgliad o wobrau ‘Prydeinig’, ‘Byd-Eang’, ‘Rhyngwladol’ a’r ‘Llaethdy Gorau’ em ein caws a menyn Cymreig.
Eleni yn unig, mae cynhyrchion llaeth yr Hufenfa wedi derbyn bron i 30 gwobr mewn digwyddiadau mawreddog fel Gwobrau Caws Prydain, Gwobrau Caws y Byd, Gwobrau Caws Rhyngwladol a Gwobrau Caws Byd-Eang. Enillodd cawsiau’r Hufenfa i gyd wobrau gyda’r rhai yn deilwng o’r prif wobrau yn cynnwys y cheddars o’r mwyn, aeddfed, clasurol a’r clasurol gyda chennin ynghyd â’r cawsiau tiriogaethol traddodiadol Caerffili, Double Gloucester a Red Leicester. Fe wnaeth menyn Cymreig hallt traddodiadol Hufenfa De Arfon hefyd ennill nifer o wobrau.
Mae’n addas iawn bod y gydweithfa Gymreig wedi ennill y rhan fwyaf o’r gwobrau am ei chaws mwyaf traddodiadol: Cheddar Cymreig wedi ei aeddfedu mewn ceudyllau. Datblygwyd hwn ar y cyd gyda Sainsbury’s ac fe’i haeddfedir 500 troedfedd o dan ddaear yng Ngheudyllau llechi Llechwedd Blaenau Ffestiniog. Yn ogystal â derbyn gwobrau gan rai fel Gwobrau Caws Byd Eang a Gwobrau Caws y byd, ar ddechrau’r flwyddyn fe wnaeth y Cheddar o’r Ceudwll ennill Cynnyrch Llaeth Gorau 2016 yng ngwobrau Food Management Today Industry sy’n cydnabod creadigrwydd, arloesedd a rhagoriaeth mewn bwyd Prydeinig.
Diweddodd y flwyddyn ar nodyn uchel pan dderbyniodd Hufenfa De Arfon wobr Cynnyrch wedi ei Wneud yng Nghymru 2016 sy’n cydnabod y cwmni bwyd neu ddiod yng Nghymru sydd wedi dylanwadu fwyaf o ran arloesedd, defnyddio cynhyrchion Cymreig, gwerth uwch a llwyddiant masnachol Dywedodd un o’r beirniaid “maent wedi symud o fod yn gynhyrchwyr cynnyrch sylfaenol i gynhyrchwr arloesol, dyma gamp aruthrol.”
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr: “Mae gwobrau yn darparu asesiad annibynnol a chyfeirnod ar gyfer safonau ac amrywiaeth a chanolbwyntir ar flas a safon yn hytrach ne phecyn coeth. Mae’r ffaith bod cynifer o’n cawsiau wedi ennill gwobrau yn brawf annibynnol pellach bod ein cynhyrchion o’r safon orau un.”
“Rydym yn canolbwyntio’n ddiddiwedd ar wella safon a gwasanaeth ac mae’r gwobrau yma yn brawf pellach ein bod yn gwneud cynnydd sylweddol wrth i ni anelu i fod yn gynhyrchwr caws Cymreig sy’n ddewis cyntaf cwsmeriaid. Mae gwobrau Cynnyrch Llaeth Gorau a Gwobr cynnyrch bwyd wedi ei wneud yng Nghymru yn cyfrannu’n fawr at y nod yma.”
“Diolch yn fawr i’n haelodau ac ein staff am eu hymroddiad a gwaith caled pob amser.”