Popeth Cymreig yn 10 Downing Street
Dewiswyd popeth Cymreig yn 10 Downing Street ddydd Gwyl Dewi. Gofynwyd i Graham Tinsley MBE o Gild Coginio Gogledd Cymru i ddarparu Gwledd o gynhyrchion Cymreig i ddathlu dydd Gŵyl Dewi yn rhif 10 Downing Street. Wrth gwrs roedd Hufenfa De Arfon yn falch iawn o gefnogi’r digwyddiad gyda rhai o’n cynhyrchion ochr wrth ochr â chwmniau eraill o Gymru.
Arddangoswyd amrywiaeth o gynhyrchion Cymreig a defnyddiwyd hwy i baratoi lluniaeth ar gyfer y Prif Weinidiog a’i gydweithwyr a oedd yn didannu enwogion mawr a nodedig Cymru. Derbyniwyd y wledd Gymreig yn awchus a mwynhaodd pawb yn fawr!