Creision Caws Cymreig

Mae Hufenfa De Arfon wedi bod yn cydweithio gyda Bwydydd Madryn i greu amrywiaeth newydd o greision caws a nionyn sy’n llwyr Gymreig. Wedi eu lansio o dan frand poblogaidd Jones Crisps, mae’r blas yn llawer cryfach nawr diolch i cheddar Dragon yr hufenfa. Ddefnyddir tatws Cymreig i wneud y creision hefyd, rhai o Ynys Môn, Sir Benfro a Sir Fynwy, yn ddibynnol ar yr amser o’r flwyddyn.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Madryn, Geraint Hughes: “yn ogystal â chreu cynnyrch arall newydd at amrywiaeth cynhyrchion Jones Crisps, rydym yn angerddol iawn am hyrwyddo bwyd Cymreig a chynhyrchwyr Cymreig. O’r safbwynt yna, roedd cydweithio gyda Hufenfa De Arfon yn gwneud synnwyr pur ac mae eu cheddar Dragon, rhagorol yn rhoi’r blas perffaith.

Mae gennyf gysytlliad emosiynol gref efo’r hufenfa, mae fy mherthnasau ar bob ochr o’r teulu gyda dolen agos â hi ers degawdau, ac mae fy nghartref, a’r fferm y cefais fy magu yn aelod sy’n cyflenwi llaeth i’r Gydweithfa ffermwyr llaeth. Dim ond tafliad carreg o’r hufenfa yn Rhydygwystl ger Pwllheli mae’r fferm a bum yno am brofiad gwaith pan oeddwn yn bymtheg.

Mi wnaethom sawl treial cyn i ni berffeithio’r blas, a’r cydbwysedd rhwng y caws a’r nionyn. Roeddem eisiau i flas y caws sefyll allan fel y cryfaf a’r mwyaf nodedig. Mae safon y cynhwysion yn hollbwysig gan ein bod eisiau cynnig y gorau a’r gwerth gorau am arian.

Mae’n falchder mawr i mi fy mod yn gallu cydweithio efo Hufenfa De Arfon sy’n gwmni ffermwyr llaeth cydweithredol, ac yn hufenfa sy’n atebol i’r ffermwyr fel y perchnogion. Dyna yw un o’r rhesymau mae’r cwmni’n dal i fynd, mae ei gwreiddiau mor ddyfn yn y gymuned ac mae’n bosib iawn y byddai cwmni rhyngwladol wedi symud y ffatri i fan mwy canolog erbyn hyn. Mae cenedlaethau o wybodaeth a sgiliau yma, a dyna pam bod y caws ei hun mor fendigedig. Mae’r cheddar sy’n cael ei aeddfedu’n y dull traddodiadol ac mae’n dod yn fyw ar y tafod.”

Dyma sentiment mae Kirstie Jones, Rheolwraig Marchnata HDA yn ei gefnogi. Dywedodd: “Mae bob dim yn dechrau gyda safon y llaeth ac mae gennym ni hanes o gynhyrchu caws rhagorol. Mae’n wych gallu gweithio gyda brand Cymreig eiconig arall sydd efo’r un ethos a ni, cefnogi cynhyrchwyr lleol a chymunedau lleol. Mae’r creision caws a nionyn newydd yn mynd lawr yn dda iawn ac mae’r gobeithion yn uchel gan fod yr ymateb wedi bod yn gadarnhaol yn gyffredinol.”