Ffair Fwyd Anuga
Mae Hufenfa De Arfon bellach wedi dychwelyd o Anuga, ffair fwyd mwyaf y byd. Yn dilyn o’r cytundeb sydd wedi ei sefydlu gyda Coombe Castle International, allforiwyr cynnyrch llaeth i gynrychioli’r hufenfa yn rhyngwladol, lansiwyd y brand Dragon yn swyddogol yn y digwyddiad mawreddog yma. Cafodd y brand Dragon le amlwg ar stondin Coombe Castle yn Anuga, sioe pum niwrnod a gynhelir yn Cologne. Croesawodd y sioe 7063 o arddangoswyr a daeth oddeutu 160,000 o fasnachwyr i ymweld â’r ffair, o 192 gwlad.
Roedd y sioe yn fan perffaith i lansio cynhyrchion Dragon ac i’w cyflwyno i brynwyr a broceriaid caws o gylch y byd. Roedd y brand yn ganolbwynt gydag oergell benodol ar gyfer yr amrywiaeth cynnyrch i gyd, cheddar o’r mwyn i’r goraeddfed, cawsiau tiriogaethol a menyn. Trwy gydol y sioe, dosbarthwyd y Cheddar nodedig o’r Ceudwll i’w flasu a mwynhawyd ef yn gan nifer.
Roedd y diddordeb yn hynod ac ar ôl y sioe rydym wedi derbyn archebion o Saudi ac UAE, ac mae samplau o gawsiau Dragon wedi mynd i’r Swistir, De Affrica, Denmark, Israel, Yr Almaen, Mecsico, Canada, Yr Aifft, Finland a Ffrainc.