Gwobrau 2016

Yma yn Hufenfa De Arfon rydym yn ymhyfrydu mewn casgliad o wobrau ‘Prydeinig’, ‘Byd Eang’ a ‘Rhyngwladol’ ac mae amrywiaeth eang o’n cynhyrchion wedi derbyn cydnabyddiaeth ymhlith y gorau.

Mae ein cynhyrchion Dragon yn dwyn lle amlwg yn y ras wobrau gydag amrywiaeth o gawsiau yn derbyn tlysau: cheddar aeddfed a clasurol ynghyd a’r cheddar clasurol gyda chennin. Mae ein cheddar sy’n cael ei aeddfedu yn y ceudyllau hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth; aeddfedir hwn 500 troedfedd o dan ddaear yng ngheudyllau Llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog a cafodd y wobr orau yn y Gwobrau Caws Byd Eang. Fe wnaeth cawsiau tiriogaethol eraill hefyd dderbyn gwobrau fel y Double Gloucester a’r Caerffili Cymreig traddodiadol.

Yn ogystal â’r caws, enillodd ein menyn hallt Cymreig nifer o wobrau yn cynnwys un o’r rhai gorau yng Ngwobrau Caws Prydain.

Mae gwobrau yn bwysig. Mae yn cynnig asesiad annibynnol a chyfeirnod ar gyfer safon y cynnyrch. Mae’r rhan fwyaf o wobrau yn canolbwyntio ar flas a safon ac mae derbyn gwobrau am drawsdoriad eang o gynhyrchion yn darparu tystiolaeth annibynnol bellach bod ein cynhyrchion o safon ragorol.

Mae’r acolâdau wedi dod o hwnt a thraw, gan Wobrau Caws Byd Eang, Sioe Gwlad yr Haf, Sioe Bakewll, Gwobrau Caws Rhyngwladol, Gwobrau Caws Prydain a Sioe Frenhinol Cymru…ac mae posibilrwydd o ragor eto ymhellach ymlaen yn y flwyddyn.