Cynnyrch Llaeth Gorau 2016

Mae’r Cheddar Cymreig mae Hufenfa De Arfon yn ei aeddfedu yn y ceudyllau llechi wedi ennill gwobr Cynnyrch Llaeth Gorau 2016 yn y “Food Management Today Industry Awards”.

Crëwyd y Cheddar Cymreig sydd wedi ei aeddfedu yn y Ceudyllau Llechi ar y cyd efo Sainsbury’s a Cheudyllau Llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog. Datblygwyd ef yn benodol ar gyfer Sainsbury’s a gwerthir ef yn genedlaethol drwy Brydain o dan eu brand ‘Taste the Difference’ ar y deli ac mewn rhagbecynnau. Mae’n cael ei bacio o dan y brand Dragon hefyd.

Mae’r dull aeddfedu yn un traddodiadol ac yn un sydd angen amser. Ar ôl cyfnod o aeddfedu yn yr hufenfa, cludir y caws i geudyllau cyfagos Llechwedd yng nghanol Eryri i’w storio 500 troedfedd o dan ddaear. Credir mai rhain yw’r ceudyllau aeddfedu dyfnaf a gadewir y cheddar yno i aeddfedu am sawl mis. Mae’r broses yma yn ychwanegu nodweddion unigryw i’r caws; ansawdd fwy cadarn a blas dwys gyda nodau sawrus cyfoethog.

Mae Gwobrau ‘The Food Management Today’ yn arddel creadigrwydd, arloesedd a’r bwydydd Prydeinig sy’n rhagori; gwobrwyir y gorau yn y diwydiant. Cyflwynir y gwobrau i gwmnïau, cymdeithasau, datblygiadau a phersonoliaethau. Mae’r broses beirniadu yn llym ac yn gofyn i’r darllenwyr bleidleisio am y cynhyrchion sydd wedi taro eu tant, ynghyd â phanel beirniadu dethol i werthuso’r cynnyrch. Rhoddir sylw i flas, ansawdd, pecynnu, cyflwyniad ac arloesedd.

Dywedodd Win Merrells, Datblygwraig Caws yn Sainsbury’s “Mae’r caws yma wedi bod yn llwyddiant mawr yn Sainsbury’s. Mae safon ac ansawdd bwyta arbennig yn meithrin yn naturiol yn ystod y cyfnod aeddfedu o dan y ddaear, a mae hynny, hanes a tharddiad y caws wedi dal sylw a diddordeb ein cwsmeriaid. Roedd yn bleser cydweithio gyda Hufenfa De Arfon i ddatblygu’r caws a phob clod iddynt hwy am ennill y wobr yma, mae’n haeddiannol iawn. Rydym yn falch iawn o gael y cynnyrch yma yn Sainsbury’s.”

Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr “Roeddem eisiau datblygu cheddar unigryw a oedd wir yn dangos ein cefndir Cymreig. Rydym mor ddiolchgar bod Ceudyllau Llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog wedi cydweithio efo ni i aeddfedu ein caws yn eu cloddfa. Mae’r caws o safon arbennig ac mae wedi gwerthu’n eithriadol o dda, felly mae derbyn gwobr Y Cynnyrch Llaeth Gorau wedi rhoi’r hufen ar y jam! Daw’r wobr ond ychydig wythnosau cyn i ni agor ein ffatri gaws newydd modern ar ein safle yn Chwilog. Y buddsoddiad yma yw’r cyntaf mewn adeilad gwneud caws fawr newydd ym Mhrydain ers y 1970au a bydd yn rhoi i ni y clyfleuster gorau i gefnogi ein cynlluniau twf a’n addewid tragwyddol i gynhyrchu caws o’r safon orau.”

Dywedodd Michael Bewick, Rheolwr Gyfarwyddwr Ceudyllau Llechi Llechwedd “Rydym yn falch iawn ein bod wedi bod yn rhan o’r prosiect yma o’r dechrau. Ni feddyliwn y byddem yn gorfod agor trydedd ogof i aeddfedu caws o fewn ond deuddeng mis er mwyn ateb y galw. Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel ac mae cael caws yn aeddfedu yn ein cloddfa llechi wedi bod yn destun trafod mawr, yn enwedig wrth i ymwelwyr weld y ceudyllau aeddfedu yn ystod eu taith tywys.”

Derbyniwyd y Wobr Cynnyrch Llaeth Gorau yn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yng ngwesty Royal Garden, Kensington, Llundain ar 10fed Chwefror 2016. Yr awdur bwyd, cogydd a pherchennog bwytai adnabyddus Mark Hix oedd yn arwain y digwyddiad.