Gweithwyr hufenfa â chalon fawr yn codi mynydd o arian ar daith i gopa’r Wyddfa
Staff from a Gwynedd creamery braved wind, rain and mist to tackle Wales’s highest peak and raise a mountain of cash for two charities that are close to their hearts.
Bu staff o hufenfa Gwynedd yn herio gwynt, glaw a niwl i daclo mynydd uchaf Cymru a chodi mynydd o arian i ddwy elusen sy'n agos at eu calonnau.
Dringodd y cerddwyr dewr o Hufenfa De Arfon i gopa’r Wyddfa fis diwethaf gan godi dros £8,000 mewn arian nawdd, ac mi wnaeth y cwmni, sef cwmni llaeth cydweithredol mwyaf Cymru sy’n eiddo i ffermwyr, gefnogi eu hymdrechion gyda chyfraniad pellach o £5,000.
Rhannwyd yr arian rhwng Cofio Robin, sy’n coffau Robin Llyr Evans, a laddwyd mewn damwain drasig yn 2015 ar ôl disgyn mewn stadiwm oedd newydd ei adeiladu yn Wuhan yn China, a’r elusen iechyd meddwl gwledig Sefydliad DPJ, gyda’r ddwy elusen yn derbyn £6,671.
Roedd Robin, sy’n fab i gyn Brif Weithredwr Hufenfa De Arfon, Gareth Evans, yn fabolgampwr brwd a dawnus ac mae’r elusen wedi helpu mabolgampwyr a chwaraewyr ifanc o Wynedd i sicrhau dros £40,000 ers 2018.
Dywedodd Gareth Evans: “Roedd yn ymdrech wych gan y tîm o Hufenfa De Arfon sydd wedi rhoi cefnogaeth wych i ni yn y blynyddoedd ers i ni sefydlu’r elusen i gefnogi pobl ifanc o Ogledd-orllewin Cymru sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon.
“Mae’n gallu bod yn anodd iddyn nhw gyflawni eu potensial oherwydd costau uchel hyfforddi a theithio i gystadlu a thros y blynyddoedd mae Cofio Robin wedi helpu cymaint ohonyn nhw i gyflawni cymaint ac rydyn ni’n gwybod mai dyna beth fyddai Robin wedi’i ddymuno.”
Sefydlwyd Sefydliad DPJ yn 2016 i helpu pobl yng nghefn gwlad Cymru i ymdopi â’r pwysau unigryw a all godi mewn ardaloedd gwledig anghysbell.
Mae’n coffáu’r contractwr amaethyddol ifanc o Sir Benfro, Daniel Picton-Jones, tad i ddau o blant, a gymerodd ei fywyd ei hun ar ôl ymladd iselder, ac mae’r elusen bellach wedi helpu dros 650 o bobl ledled cefn gwlad Cymru.
Dywedodd Kate Miles, Rheolwr Elusen Sefydliad DPJ: “Mae Sefydliad DPJ yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth Hufenfa De Arfon, busnes sydd â’i wreiddiau yng nghanol cefn gwlad Cymru sydd â gwerthfawrogiad mawr o’r gefnogaeth rydym yn ei rhoi i’r rhai sydd ei angen yng nghefn gwlad.
“Yn ogystal â’n hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a’n gwasanaeth cwnsela a llinell gymorth cyfrinachol Rhannu’r Baich, rydym hefyd yn postio llun dyddiol ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a fydd, gobeithio, yn dangos bod help ar gael bob amser ac er y gall ffermio fod yn waith ynysig ac unig, nid ydych byth ar eich pen eich hun.
“Tra bod yr Wyddfa yn fynydd eiconig a hardd i bob un ohonom yng Nghymru, mae ffermwyr yn gwybod yn well na neb y gall fod yn llwm ac yn ynysig yno fel mewn cymunedau gwledig eraill, yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn.
“Trwy eu hymdrechion a’u penderfyniad, bydd staff Hufenfa De Arfon a roddodd o’u hamser i godi’r swm anhygoel hwn, yn helpu cymaint o bobl trwy ganiatáu i ni barhau â’r gwaith hanfodol rydym yn ei wneud. Rydym mor ddiolchgar iddyn nhw i gyd, diolch o galon.”
Cychwynnodd dros 25 o gerddwyr ar y daith naw milltir o Lanberis ond roedden nhw yn dal i ddringo pan wibiodd Andy Goswell, Pennaeth Gweithrediadau Caws y cwmni sydd hefyd yn rhedwr brwd, heibio iddynt ar y ffordd i lawr wrth iddo gwblhau’r daith mewn ychydig dros ddwy awr.
Dywedodd y Rheolwr Marchnata Kirstie Jones: “Fe wnaethon ni newid o ddydd Sadwrn i ddydd Sul oherwydd y gwyntoedd cryfion a’r tywydd stormus a ragwelwyd, ond yn y diwedd doedd dim angen yr holl ddillad cynnes roeddem wedi dod efo ni.
“Erbyn i ni gyrraedd y copa roedd wedi cau i mewn ond fe wnaethon ni fwynhau’r diwrnod. Roedd yn wych cael mynd allan efo’n gilydd fel tîm a dyma’r tro cyntaf i mi ddringo’r Wyddfa.
“Fe wnaeth hi godi wrth i ni gyrraedd yn ôl i lawr i Lanberis ac roedd pawb wrth eu bodd i fod yn ôl yn ddianaf wedi cwblhau’r her. Roedd pob cam yn werth yr ymdrech i godi cymaint at achosion mor ardderchog.
“Roedd yn ymdrech wych a gyda Hufenfa De Arfon hefyd yn cyfrannu £5,000 ychwanegol roedd y ddwy elusen wrth eu bodd ac fe wnaethom hefyd gyfrannu hamper o gaws i Sefydliad DPJ ar ol diwrnod codi arian llwyddiannus arall.”