Gweithwyr hufenfa â chalon fawr yn mynd ar daith elusen i gopa’r Wyddfa

Mae tîm o weithwyr hufenfa Gwynedd yn mynd i fyny yn y byd i godi arian i ddwy elusen sy'n agos at eu calonnau.

Bydd staff Hufenfa De Arfon yn wynebu’r her o ddringo’r Wyddfa ar ddydd Sadwrn, Hydref 1, er budd Cofio Robin, Ymddiriedolaeth Goffa Robin Llŷr Evans, a Sefydliad DPJ, y ddau â chysylltiadau cryf ar draws Cymru, yn enwedig y Gogledd a’r Gorllewin.

Mae Cofio Robin yn coffau Robin Llŷr Evans a laddwyd mewn damwain drasig yn 2015 ar ôl disgyn mewn stadiwm oedd newydd ei adeiladu yn Wuhan yn China.

Ar y pryd roedd Robin, 20 oed, yn teithio i dwrnameintiau tenis ar draws y byd yn gweithio i Hawk-Eye, sy'n darparu system gamera sy'n olrhain trywydd y bêl yn ystod gemau tenis.

Cafodd yr elusen, sy’n darparu cymorth ariannol i fabolgampwyr ifanc dawnus o’r Gogledd-orllewin, ei sefydlu gan ei deulu yn haf 2018 fel ffordd o adlewyrchu “awch am fywyd Robin a’i ddiddordeb brwd mewn chwaraeon a phobl”.

Ers hynny mae wedi helpu chwaraewyr ifanc i sicrhau dros £40,000 ac mae ffrwyth ymdrechion yr elusen wedi’i weld ar sgriniau teledu yn ystod yr haf hwn o chwaraeon gyda dau unigolyn sydd wedi elwa o gymorth yr elusen eleni yn cynrychioli Cymru, y nofiwr Medi Harris, o Borth y Gest, a’r codwr pwysau Catrin Jones, o Fangor.

Gwnaeth Medi yn arbennig o dda, gan gipio efydd yn y ras nofio cefn 100 medr yng Ngemau'r Gymanwlad, yn Birmingham, gan ddilyn hynny gyda medal arian yn y ras gyfnewid 4x200 metr ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Rhufain.

Mae gan Sefydliad DPJ hefyd gysylltiadau cryf â ffermio yng Nghymru ar ôl cael ei sefydlu yn 2016 gan deulu’r contractwr amaethyddol ifanc o Sir Benfro, Daniel Picton-Jones, tad i ddau o blant, a gymerodd ei fywyd ei hun ar ôl ymladd iselder, ac mae’r elusen bellach wedi helpu dros 650 o bobl ledled cefn gwlad Cymru.

Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon: “Dyma ddwy elusen bwysig iawn sy’n gwneud cymaint o waith gwych ac sy’n golygu llawer iawn i bobl yr ardal hon.

“Mae Gareth, tad Robin, yn gyn Brif Weithredwr Hufenfa De Arfon felly mae gennym ein cysylltiad ein hunain efo Cofio Robin ac am y gwaith mae elusen wedi ei wneud i annog a chefnogi mabolgampwyr ifanc o ogledd a gorllewin Cymru.

“Mae gwaith Sefydliad DPJ hefyd wedi bod mor bwysig yn ein cadarnle lle gall harddwch cefn gwlad guddio’r ffaith y gall gweithio oriau hir ar ei ben ei hun ddod â’i bwysau a’i unigrwydd ei hun a gwyddom eu bod wedi helpu ac yn parhau i helpu cymaint mewn amaethyddiaeth.”

Mae'r cerddwyr yn wynebu saith awr enbyd yn mynd i fyny ac i lawr mynydd uchaf Cymru ac yn anelu at godi o leiaf £10,000, lleiafswm o £5,000 i bob elusen. Bydd y criw i gyd yn gobeithio am ddiwrnod braf ac yn eu plith mae’r Rheolwr Marchnata Kirstie Jones, sy’n anelu at gael rhywfaint o hyfforddiant munud olaf cyn y ddringfa ac meddai: “Dydw i ddim wedi gwneud llawer hyd yma ond mae gen i gwpl o wythnosau i fynd cyn yr her.

“Dydw i erioed wedi taclo’r Wyddfa o’r blaen ond rydw i wedi bod i fyny Pen y Fan ychydig o weithiau ac rydan ni’n gwneud yr her ar gyfer dau achos mor wych felly rwy’n siŵr y bydd hynny’n ein gwneud ni i gyd hyd yn oed yn fwy penderfynol o lwyddo.

“Mae’r ddwy elusen wir yn golygu llawer i ni fel cwmni gan fod y ddwy yn gwneud gwaith mor wych ac wedi’u gwreiddio yn y rhan hon o Gymru.

“Rydyn ni'n gweddïo am dywydd braf ac rwy'n siŵr y bydd y gyfeillgarwch a'r ysbryd tîm yn ei wneud yn ddiwrnod gwych i ni i gyd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y ddwy eluse haeddional hyn ac i gyfrannu ewch i: https://bit.ly/SCC_donate_2022