Pythefnos Bwyd Prydain
Cynhelir Pythefnos Bwyd Prydain pob Hydref i hybu a dathlu bwyd a diod Prydeinig
Credwn ei fod yn ddathliad pwysig gan ei fod yn amlygu pwysigrwydd prynu bwydydd Prydain sy’n cynnig cyfoeth o gynnyrch o safon uchel ar drothwy ein drws.
Felly pam gredwn ni y dylech brynu cynnyrch llaeth Prydeinig?
- Mae ein ffermwyr yn ymlynu at un o’r safonau lles uchaf yn y byd.
- Mae dewis cynnyrch llaeth Prydeinig (neu wrth gwrs cynnyrch Cymreig) yn golygu eich bod yn cefnogi ffermwyr Prydain yn uniongyrchol sydd o dro yn effeithio’n gadarnhaol ar gefn gwlad Prydain.
- Rydych yn cefnogi’r economi yn uniongyrchol – o ffermwyr i bob busnes sy’n ymwneud â phrosesu bwyd i’r siopau sy’n gwerthu bwyd.
- Mae bwyd a gynhyrchir yn lleol yn teithio llawer llai, felly mae buddion amgylcheddol amlwg gyda’r ôl troed carbon llawer yn llai.
Mae aelodau ein cydweithfa deuluol o Ogledd Cymru a Chanolbarth Cymru. Mae eu ffermydd llaeth yn darparu llaeth o safon ragorol i ni gan bod y gwartheg yn pori ar diroedd ffrwythlon Cymru.
I ni mae tarddiad yn elfen hanfodol o’r busnes; rydym yn falch iawn o’n gwreiddiau Cymreig ac ein polisi yw prosesu llaeth Cymreig yn unig. Mae gennym hefyd ein brand caws a menyn Dragon sy’n llwyddiannus iawn. Mae ein cynnyrch llaeth yn cwmpasu o cheddars traddodiadol o’r mwyn i’r clasurol a cheddar aeddfed gyda chennin a sbardunodd o’n gwreiddiau Cymreig. Yna ceir Caerffili, cawsiau tiriogaethol a menyn hallt, felly rhywbeth i bawb!
Credwn ei bod yn bwysig i brynu cynnyrch llaeth Prydeinig trwy gydol y flwyddyn ac mae Pythefnos Bwyd Prydeinig yn ddathliad pwysig – 17 Medi 2016 – 2 Hydref 2016.