Buddsoddi £14.4 miliwn
Mae Hufenfa De Arfon yn falch iawn o gyhoeddi cynllun ehangu £14.4 miliwn dros dair blynedd a fydd yn cynyddu cynhyrchiant caws o 50 y cant ac yn creu swyddi newydd erbyn 2024. Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. ar gyfer Datblygu Gwledig.
Bydd cynhyrchion yn codi o’r lefel bresennol o 15,000 tunnell o gaws y flwyddyn i 23,000 tunnell a rhagwelir y bydd yr angen am laeth Cymreig ffres yn codi o 130 miliwn i fwy n 200 miliwn litr y flwyddyn wrth i drosiant dyfu.
Yn dilyn cam cyntaf y buddsoddiad nôl yn 2016, bydd cam nesaf strategaeth twf y busnes yn gwneud y Cwmni’n hyd yn oed yn fwy gwydn, effeithlon a hyfyw mewn diwydiant sydd yn ffyrnig o gystadleuol.
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr, "Mae Hufenfa De Arfon wedi tyfu’n gadarn yn y blynyddoedd diweddar ac mae gwerthiant wedi dyblu yn y bum mlynedd diwethaf o £30m i £60m. Nid ydym yn tyfu i ddim pwrpas a’r bwriad yw bod yn fwy cystadleuol a phroffidiol ac yn fwy gwydn a chynaliadwy ymlaen i’r dyfodol.”
Bydd y prosiect £14.4 miliwn yn cynnwys adnoddau newydd yn y dderbynfa llaeth, llinellau cynhyrchu caws a phacio caws ychwanegol a chyfleuster prosesu maidd newydd. Bwriedir buddsoddi yn yr adran trin gwastraff hefyd a gwella defnydd ynni ac effeithiau amgylcheddol. Bydd y gwaith yma’n cael ei wneud dros gyfnod o dair blynedd i’w gwblhau yn 2024.