Dathlu Cerrig Milltir Arbennig

Mae dau aelod o staff wedi dathlu cerrig milltir arbennig yn Hufenfa Arfon.

Mae Morgan Owen yn dathlu deugain mlynedd o wasanaeth i gydweithfa llaeth hynaf Cymru. Mae Morgan yn byw yn agos iawn i’r Hufenfa yn Llanarmon ac yn gweithio yn yr adran gaws ac yn rhan o’r tîm sy’n gwneud y cawsiau Dragon sydd wedi ennill nifer o wobrau, a’r caws mae’r Hufenfa yn wneud i’r archfarchnadoedd mawr ar draws Prydain.

Yn ogystal, mae Gareth Parry wedi nodi 25 mlynedd o wasanaeth i’r Hufenfa. Adnabyddir Gareth yn well fel Charlie ac mae ei waith o yn y dderbynfa llaeth. Dyma’r pwynt cyntaf i’r tanceri llaeth wrth gyrraedd yr Hufenfa i ddadlwytho’r llaeth sydd wedi cael ei gasglu oddi ar y ffermydd ei haelodau. Mae Gareth hefyd yn byw yn lleol i’r Hufenfa yn Nefyn.

Er mwyn nodi’r ymroddiad a gwasanaeth arbennig yma, cyflwynodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr rodd o ddiolchgarwch i Morgan a Gareth.