Coeden Nadolig Caws
Be am gael ychydig o hwyl gyda’ch gwesteion dros y Nadolig efo’r Goeden Nadolig Caws yma. Gallwch adeiladu’r goeden Nadolig i gyd-fynd â nifer eich gwesteion.
Byddwch angen:
- Bwrdd caws neu blat Mawr
- Caws Dragon gwyn a chaws Dragon coch wedi eu torri i giwbiau o’r un maint
- Grawnwin gwyrdd a coch
- Tomatos ceirios bach
- Coesyn seleri ar gyfer y boncyff
- Rhosmari a theim
Dechreuwch adeiladu’r goeden o’r gwaelod gyda chiwbiau o gaws mewn llinell, bob yn ail gyda’r grawnwin a’r tomatos. Adeiladwch y rhesi a lleihau y lled wrth fynd ymlaen i adeiladu’r goeden.
Ychwanegwch sbrig o berlysiau fel garnais a gweinwch gyda chracers a siytni.