Darparwr Cynnyrch Llaeth 2017

Mae Hufenfa De Arfon wedi ennill Gwobr Darparwr Cynnyrch Llaeth 2017 yng Ngwobrau Bwyd Cymru.

Sefydlwyd y gwobrau yma dair blynedd yn ôl i ddathlu diwydiant bwyd Cymru a chafwyd noson yng ngwesty’r Marriott Caerdydd ar 30ain Mai.

Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon “Rydym yn falch iawn o fod wedi ennill gwobr darparwr cynnyrch llaeth y flwyddyn am 2017. Mae pob un gwobr a enillir yn gydnabyddiaeth ardderchog i’n cydweithfa, ond gan mai aelodau o’r cyhoedd oedd yn pleidleisio yn y gwobrau yma mae’n ardystiad arbennig iawn. Dros y ddwy flynedd olaf mae Hufenfa De Arfon wedi buddsoddi’n drwm yn yr adrannau cynhyrchu, pacio ac mewn mentrau newydd, ac o dro mae hynny wedi bod o fudd uniongyrchol i’r diwydiant, yr economi leol a ffermio llaeth Cymreig. Mae diwydiant llaeth Prydain wedi bod trwy gyfnod anodd iawn ac mae’r rhwydwaith cyflenwi i gyd wedi teimlo effaith hynny. Rydym yn canolbwyntio nawr ar ddarparu cynhyrchion a gwasanaeth o safon i’n cwsmeriaid, ac ar sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn gynaliadwy. Felly mae gwobrau sy’n cydnabod y cwmni fel y ‘gorau yn ei ddosbarth’ yn cefnogi ac yn hybu ein cynnydd a datblygiad parhaus.”

“Rydym yn dilyn strategaeth eglur a chlir er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus i’r gydweithfa ac un a fydd, gobeithio yn dwyn buddion cyson i’n haelodau a staff.

Roedd Hufenfa De Arfon ar rhestr fer Gwobrau Bwyd Cymru ynghyd â chwe cwmni llaeth Cymreig arall yn y categori Darparwr Cynnyrch Llaeth y Flwyddyn 2017.