Sioe Sir Ddyfnaint

Cynhelir Sioe Sir Ddyfnaint bob mis Mai ac mae croeso mawr i Gynhyrchwyr Cynnyrch Llaeth gystadlu am eu gwobrau mawreddog. Eleni, rhoddodd Hufenfa De Arfon amrywiaeth o gynnyrch ymlaen ac mae’n hapus dros ben i ennill pedair gwobr yn y categori Cynnyrch Llaeth. Rydym yn hynod o foddog o ennill gwobrau cyntaf am ein cynhyrchion mwyaf Cymreig: Cheddar Aeddfed o Geudwll Llechen, sy’n cael ei aeddfedu yng ngheudyllau cloddio llechi Llechwedd yn Eryri; a’r caws pobi sy’n gymysg blasus o gaws, mwstard Cymreig a chwrw Cymreig.

Yn ogystal, enillodd y Caws Cheddar Clasurol efo Cennin a’r Caws Cheddar Mwyn wobrau.

Cofiwch gadw golwg ar ein tudalennau newyddion i weld be arall fyddwn yn ennill eleni.