Brand Dragon yn mynd i Gulfood
Mae brand Dragon Hufenfa De Arfon am ehangu ei gorwelion yn rhyngwladol ac ar fin arddangos yn Gulfood; y digwyddiad blynyddol gwasanaeth bwyd, lletygarwch ac adwerthu mwyaf y byd. Fe’i cynhelir o 23-27 Chwefror yng Nghanolfan Masnach Byd Dubai.
Mae Dragon wedi sefydlu ei le yn dda iawn yng Nghymru, ond mae’r galw byd eang cynyddol am gynhyrchion llaeth a bwydydd Prydeinig sydd â tharddiad wedi annog Cwmni Cydweithredol Ffermwyr Llaeth mwyaf Cymru, am y tro cyntaf, i gymryd rhan mewn digwyddiad dros y môr.
Bydd Hufenfa De Arfon ymhlith 4,200 o arddangoswyr yn hybu ei chynhyrchion caws llwyddiannus ac sydd wedi ennill sawl gwobr; cheddar mwyn, canolig, aeddfed a chlasurol ynghyd â’r dewis ‘lighter’ a’r Cheddar Clasurol efo Cennin sydd wrth gwrs yn cefnogi ei gwreiddiau Cymreig ymhellach.
“Mae Dragon wedi dod yn boblogaidd dros ben yma yng Nghymru, ond ers y dechrau nid ein bwriad oedd ei gyfyngu i hynny. Mae cymaint mwy o ddiddordeb yn rhyngwladol am gynnyrch Prydeinig, ac yn arbennig caws, felly mae’n amser da i ni arddangos dros y môr” eglurodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon. “Dylai Gulfood gynnig cyfleoedd da i ni gyfarfod ag arddangoswyr o farchnadoedd sydd wedi eu dewis yn ofalus i sicrhau bod y byd i gyd yn cael mwynhau Dragon.”
http://www.gulfood.com/Exhibit...