Ryseitiau Caws Dragon

Be am wneud y ryseitiau Caws Dragon yma. Gallwch ddefnyddio unrhyw gaws Dragon i wneud y sgons, be bynnag yr hoffwch orau.

Pate Cennin a Caws Dragon

15g Menyn Dragon
1 Cennin mawr wedi ei dorri yn fân
3 llwy fwrdd o crème fraiche neu hufen sengl
1 llwy de o fwstard grawn cyflawn
Tropyn o saws Swydd Gaerwrangon
Pupr du mâl
140g Caws Dragon Aeddfed (gratio neu bloc wedi eu dorri mewn prosesydd bwyd)

1. Toddwch y menyn mewn padell ffrio tan yn boeth iawn, ychwanegwch y cennin a’i ffrio tan yn feddal ac wedi coginio.
2. Ychwanegwch y crème fraîche, mwstard, saws Swydd Gaerwrangon a rhywfaint o bupur du. Cymysgwch yn dda a’i goginio heb orchudd tan mae’r hylif wedi lleihau rhywfaint.
3. Rhowch y cymysg mewn prosesydd bwyd, ychwanegwch y caws a’i stwnshio ychydig ar y tro tan yn llyfn.
4. Rhowch mewn powlen gweini bas a’i oeri am o leiaf 2 awr.
5. Ysgeintiwch gyda syfi ffres wedi ei dorri a’i weini gyda sgons caws a tomato neu fara ffres.

Sgons Caws a Tomato

250g blawd codi
1 llwy de gwastad o bowdwr pobi
50g menyn hallt Dragon
1 wy wedi ei guro efo 100ml o laeth
100g Caws Dragon Aeddfed
2 llwy fwrdd o domatos wedi sychu mewn olew (pwysau ar ôl diferu)
1 llwy de o berlysiau cymysg
Pupur du mâl ffres

1. Cynheswch y popty i Nwy 7/220˚C
2. Hidlwch y blawd gyda’r powdwr pobi i fowlen cymysgu mawr, rhwbiwch y menyn i mewn tan mae’n edrych fel briwsion bara.
3. Ysgeintiwch y perlysiau cymysg a’r pupr du ac yn chymysgu’r tomatos sych a’r caws i’r cymysg.
4. Ychwanegwch yr wy a’r llaeth yn araf i’r cymysg tan mae’n ffurfio i does, os yw’n edrych yn wlyb peidiwch â rhoi y hylif i gyd.
5. Gweithiwch y does ar fwrdd gyda blawd arno tan yn llyfn.
6. Gyda’ch dwylo rhowliwch y does i tua 3cm o ddyfnder a thorwch y sgons gyda thorrwr crwn.
7. Pobwch ar hambwrdd wedi’i daenu’n ysgafn gyda blawd am 12-15 munud, neu tan yn euraid.
8. Gweinwch yn gynnes wedi eu taenu gyda menyn Dragon neu bate caws Dragon.