Dragon yn Rhyngwladol

Mae Hufenfa De Arfon wedi gwneud cytundeb gyda Coombe Castle International, allforwyr cynnyrch llaeth sefydledig, i gynrychioli brand Dragon yr Hufenfa ar farchnadoedd byd eang. I lansio’r bartneriaeth newydd yma, bydd Dragon yn rhan o stondin fasnach Coombe Castle yn Anuga, un o brif ffeiriau bwyd y byd ar gyfer archfarchnadoedd, y gwasanaeth bwyd ac arlwyo. Bydd y ffair, sydd yn Cologne dros bump diwrnod fis Hydref yn gyfle i roi’r brand Dragon ger bron prynwyr rhyngwladol yn swyddogol.

Bydd Dragon yn frand pwysig ym mhortffolio Coombe Castle o hyn ymlaen a byddent yn hyrwyddo’r cynhyrchion Dragon i gyd i gynnwys y cheddars, mwyn i’r clasurol, Caerffili, cawsiau tiriogaethol a menyn. Bydd cynnyrch mwyaf nodedig y brand, y Cheddar o’r Ceudwll a aeddfedir 500 troedfedd o dan ddaear yng ngheudyllau llechi Llechwedd yn Eyri, hefyd yn rhan allweddol o’r casgliad.

Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon: “Mae Dragon wedi hen sefydlu yng Nghymru, ond fel rhan o’n hymgyrch gwerthiant mae’n hanfodol ein bod yn edrych ar farchnadoedd newydd tu allan i’r dywysogaeth. Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda phartner proffesiynol sefydledig fel Coombe Castle a bydd y bartneriaeth newydd yma yn rhoi llwyfan ehangach i’r brand Dragon. Bydd yn caniatáu i ni gael cynrychiolaeth strwythuredig mewn marchnadoedd rhyngwladol allweddol, yn arbennig rhai Ewrop a’r Dwyrain Pell lle mae gwerthiant cawsiau Prydeinig a Chymreig ar ei fyny”.

Dywedodd Darren Larvin, Rheolwr Gyfawryddwr Coombe Castle International “Rydym yn hapus iawn i ychwanegu’r Dragon at ein cawsiau Cymreig rhanbarthol, ac yn falch o gynrychioli’r brand. Mae gennym hyder mawr am lwyddiant oherwydd hanes, safon a blas y cynnyrch. Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno’r brand i’n cysylltiadau rhyngwladol sy’n chwilio am gaws a menyn i archfarchnadoedd a’r gwasanaeth bwyd.”

www.coombecastle.com