Noddi Taith Kilimanjaro
Meilyr gam yn agosach i ddringo Mynydd Kilimanjaro diolch i Gaws Dragon
Mae Meilyr Williams, ffermwr ifanc 19-oed gam yn agosach i’w ymgyrch i ddringo Mynydd Kilimanjaro i gefnogi elusen iechyd meddwl MIND yn dilyn derbyn nawdd gan Hufenfa De Arfon gwneuthurwyr caws Dragon. Mae Meilyr yn paratoi i ddringo mynydd uchaf Affrica er mwyn codi ymwybyddiaeth am broblemau iechyd meddwl yn yr economi gweledig a ffermio.
Hyd yma mae Meilyr wedi casglu £1000 ac mae cyfraniad o £250 gan HDA wedi rhoi hwb ymlaen i’w gronfa. Tybir y bydd y daith Kilimanjaro yn parhau am 12 diwrnod gyda 9 diwrnod o gerdded. Awst neu Medi 2020 yw’r amserlen i gwblhau’r dasg, ond efallai y bydd yn rhaid gohirio yn ddibynnol ar pandemig COVID-19.
Cychwynnir y daith ar dir glas Safana yn Nhanzania. Llosgfynydd segur yw Mynydd Kilimanjaro gyda chap eira a dyma yw’r copa uchaf yn Affrica,5,895m uwchlaw’r môr. Mae Meilyr ar ddeall bod yn rhaid iddo fod yn benderfynol ac yn wydn i wynebu’r tymheredd iasoer a’r diffyg aer ar grib y mynydd yn ystod yr her galed yma.
Yn gyn-ddisgybl yn ysgol gynradd Eglwysbach ac ysgol uwchradd Dyffryn Conwy mae Meilyr bellach yn ei flwyddyn gyntaf yn astudio Busnes Pêl Droed a’r Cyfryngau yng nghampws Busnes Pêl Droed ym Mhrifysgol Manceinion. Mae Meilyr yn ymgymryd â’r her gyda chriw o’r Brifysgol ac mae wedi bod yn ymarfer am yr her trwy fynd ar deithiau cerdded yn rheolaidd yn cynnwys y tri chopa yn nyffrynnoedd Efrog a mynyddoedd Eryri. Mae hefyd yn mynd i’r gampfa ac yn seiclo.
Mae teulu Meilyr yn ffermio 500 o ddefaid a gyr o wartheg tew ar eu fferm yn Nhŷ Gwyn Conwy. Dywedodd, “rwyf eisiau codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl yn y gymuned wledig. Mae iechyd meddwl yn broblem fawr yn gyffredinol oherwydd pryderon ariannol mae pobl yn ei wynebu. Mae ffermio yn galw am waith ymarferol caled iawn a gall y ffordd o fyw fod yn ynysig ac unig iawn. Dwi’n meddwl ei bod yn dda fod pobl yn gwybod bod cefnogaeth ar gael gan sefydliadau fel MIND os ydynt ei angen.”
Mae hwn yn her anferthol i Meilyr ac mae HDA yn falch iawn o allu cefnogi rhywun o’r gymuned ffermio leol ac achos gwych fel elusen MIND tra hefyd yn codi ymwybyddiaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl.