Caws Cymreig Dragon wrth fodd Pensiynwyr Chelsea

Gan weithio mewn partneriaeth â Dairy UK, creodd caws Dragon gryn argraff ar Bensiynwyr Chelsea yn ddiweddar yn eu Seremoni Cawsiau Nadolig flynyddol yn Llundain trwy gyfrannu eu detholiad llawn o gaws Dragon Wedi’i Wneud â Llaw a Dragon Bob Dydd ar gyfer y dathliadau.

Gan weithio mewn partneriaeth â Dairy UK, creodd caws Dragon gryn argraff ar Bensiynwyr Chelsea yn ddiweddar yn eu Seremoni Cawsiau Nadolig flynyddol yn Llundain trwy gyfrannu eu detholiad llawn o gaws Dragon Wedi’i Wneud â Llaw a Dragon Bob Dydd ar gyfer y dathliadau.

Mewn traddodiad blynyddol, a drefnir gan Dairy UK, sefydliad sy’n cynrychioli cwmnïau cydweithredol sy’n eiddo i ffermwyr, mae cwmnïau caws ledled y DU yn rhoi eu caws i Ysbyty Brenhinol Chelsea.

Dechreuodd y traddodiad canrifoedd oed o roi caws i’r Pensiynwyr dros 320 o flynyddoedd yn ôl, yn 1692, ac mae gwneuthurwyr caws wedi parhau i gyfrannu ers hynny. Yn 1959, trefnwyd rhoi caws yn seremoni o ddathlu a diolch i Bensiynwyr Chelsea am eu gwasanaeth.

Mae Dairy UK yn parhau â’r traddodiad o gynnal Seremoni Flynyddol y Caws Nadolig a dywedodd Paul Vernon, Cadeirydd Dairy UK, “Eleni, cyfrannodd gwneuthurwyr caws mawr a bach o bob rhan o’r DU dros 330kg o gaws Prydeinig.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r gwneuthurwyr caws o bob rhan o’r DU am eu rhoddion hael a’u hymrwymiad parhaus i ddathlu dynion a merched y sefydliad Prydeinig gwych hwn. Mae’r rhodd flynyddol hon yn draddodiad gwych o dalu teyrnged i ddewrder a chyfraniad ein cyn-filwyr ac rydyn ni yn Dairy UK yn falch o chwarae rhan yn y digwyddiad hanesyddol hwn.”

Mae caws Cymreig Dragon yn cael ei gynhyrchu gan Hufenfa De Arfon, cwmni ffermwyr cydweithredol yng ngogledd Cymru ac ychwanegodd Kirstie Jones, Rheolwr Marchnata Hufenfa De Arfon, “Mae hwn yn ddigwyddiad elusennol gwych sy’n llawn hanes yr ydyn ni’n ei gefnogi bob blwyddyn. Mynychais y digwyddiad y llynedd ac mae ‘na ganu ac adloniant, hir y parhao.”

Ar gyfer stocwyr lleol neu i brynu cynnyrch Dragon ewch ar-lein ewch i https://dragonwales.co.uk/cy/categori/gyda-llaw/ neu https://dragonwales.co.uk/cy/stocwyr/ ac ar gyfer ryseitiau https://dragonwales.co.uk/cy/ryseitiau/.