Cydweithfa laeth sy’n eiddo i ffermwyr yn cyrraedd y brig
Mae Hufenfa De Arfon wedi ennill gwobr fawreddog ‘Cynhyrchydd Bwyd y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru 2023.
Roedd y seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd yn Venue Cymru, Llandudno, ar 18 Mai, yn dathlu ymroddiad a thalent rhai o gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd a diod gorau Cymru.
Gan daflu goleuni ar straeon llwyddiant cwmnïau bwyd a diod sy’n tyfu, creu swyddi ac yn ysbrydoliaeth i eraill, mae’r gwobrau hefyd yn amlygu amrywiaeth y sector bwyd a diod yng Nghymru.
Yn sefyll allan, gyda dros 60 mlynedd o brofiad o gynhyrchu caws, cydnabuwyd cydweithfa laeth hynaf Cymru am gael gwir effaith yn gyson yn sector bwyd Cymru.
Wedi’i lleoli ger Pwllheli, a gyda’i brand blaenllaw Dragon yn cynhyrchu dros 17,000 tunnell o gaws y flwyddyn, Hufenfa De Arfon oedd enillydd teilwng categori ‘Cynhyrchydd Bwyd y Flwyddyn’.
Daw'r wobr yn dilyn dechrau prysur i’r flwyddyn i’r hufenfa, gyda lansiad diweddar ei hysbyseb deledu ar gyfer ei brand blaenllaw, Dragon, a’i gwefan Dragon newydd a gwell.
Mae’r hufenfa wedi hen arfer ag ennill wobrau. Y llynedd, enillodd brand Dragon 70 o wobrau caws a menyn, gan gynnwys tair o wobrau aur byd-eang yn y Gwobrau Caws a Llaeth Rhyngwladol.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon, Alan Wyn Jones, “Rydym yn falch iawn o ennill y wobr hon. Mae’n destament i’n staff a’n haelodau fferm, sy’n wirioneddol ymroddedig i gynhyrchu cynnyrch llaeth Cymreig o ansawdd eithriadol o laeth lleol o safon.
Aeth yn ei flaen: “Ers i ni lansio ein gwefan Dragon newydd a gwell fis Tachwedd diwethaf, rydym wedi gweld y twf mewn gwerthiant yn cynyddu, ond yn yr un modd, mae ennill y wobr hon yn ein llenwi â balchder. Mae'r cyfan o ganlyniad i gynhwysion lleol o safon, ein tîm ymroddedig a pheidio â bod ofn symud gyda'r oes. Rydym yn edrych ymlaen at 60 mlynedd arall, a thu hwnt, o greu cynnyrch llaeth o safon eithriadol.”