Pei Twrci a Chaws
Mi fydd y teulu wrth eu bodd efo’r pei twrci a chaws yma. Be gewch chi well i gladdu gweddillion y twrci a’r caws cheddar dros ben ar ôl y Nadolig.
Cynhwysion
1 llwy fwrdd o olew llysiau/blodau
50g menyn Dragon
250g cennin wedi sleisio’n denau
50g blawd plaen
400ml llaeth hanner sgim
100g cheddar Dragon aeddfed wedi gratio
500g talpiau bach twrci wedi eu coginio’n barod
1 llwy fwrdd o bersli wedi malu’n fân
1 llwy bwdin o fwstard cyflawn
6 haen crwst filo a 2 lwy fwrdd o fenyn wedi toddi
Dull
Cynheswch y popty i 200°C, ffan 190°C, nwy 5.
1. Cynheswch yr olew a menyn mewn padell fawr a choginio y cennin am
10 munud, neu tan maent wedi meddalu. Ysgeintiwch y blawd ac ychwanegu y
llaeth yn araf. Codwch i ferw a mudferwi tan mae wedi tewychu.
2. Ychwanegwch y cheddar tan mae wedi toddi.
3. Ychwanegwch y mwstard, persli a thwrci a’i gymysgu’n dda.
4. Tolltwch i fowlen rhostio 1.5 litr.
5. Rhowch
3 crwst filo ati ei gilydd a’u taenu efo’r menyn wedi toddi, eu torri i
stribedi llydan a’u gwasgu’n ysgafn at ei gilydd, yna rhowch hwy ar ben
y pei. Gwenwch yr un fath eto tan mae wyneb y pei i gyd wedi ei
orchuddio.
6. Brwsiwch y filo gyda gweddill y menyn a phobi am 25 munud tan yn euraid.
7. Gweinwch gyda’ch dewis chi o lysiau gwyrdd neu salad gwyrdd ffres.
Awgrym y Cogydd: Os yr hoffwch defnyddiwch fadarch yn lle y cennin a choginio am 5 munud. Gallwch ychwanegu llysiau eraill dros ben fel ysgewyll a moron gyda’r twrci hefyd.