Hufenfa’n helpu: Hufenfa De Arfon yn rhoi help llaw i Gymru wledig

Mae Hufenfa De Arfon yn lansio menter codi arian gyda'r nod o ddarparu diffibrilwyr achub bywyd i gymunedau gwledig.

Yr wythnos diwethaf, gosododd Hufenfa De Arfon ei diffibriliwr cyntaf ar y safle, sydd ar gael i bawb, gan nodi lansiad swyddogol ei hymgyrch newydd. Mae'r Hufenfa bellach yn gwahodd grwpiau lleol i helpu i nodi ardaloedd gwledig sydd angen diffibrilwyr achub bywyd.

Bydd yr ymgyrch yn parhau gyda thaith gerdded noddedig ar hyd llwybr arfordir Penrhyn Llŷn, sydd tua 18 milltir, ddydd Sadwrn 30 Awst, gyda'r holl elw’n mynd tuag at brynu a gosod diffibrilwyr.

Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon, “Gan mai ni yw cwmni cydweithredol llaeth hynaf a mwyaf Cymru, ac wedi bod yn eiddo i ffermwyr ers 1938, rydyn ni eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i'r cymunedau sydd wedi ein gwneud ni'r hyn ydyn ni heddiw.

“Bydd ein pryniant cychwynnol yn tynnu sylw at bwysigrwydd cael diffibrilwyr hygyrch mewn ardaloedd anghysbell ac rydyn ni’n galw ar ein cymunedau i gysylltu os oes angen un yn eich ardal chi.

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod siawns pawb o oroesi trawiad ar y galon y tu allan i’r ysbyty yr un fath ledled Cymru. Byddwn yn rhannu clipiau o bobl yn dangos sut i roi CPR a straeon personol am bwysigrwydd diffibrilwyr i godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i gymryd rhan.

“Mae croeso i staff, ffrindiau a theulu gerdded llwybr arfordir 18 milltir o hyd Penrhyn Llŷn ddydd Sadwrn 30 Awst. Gall eich cefnogaeth helpu i achub bywydau a gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. I gael gwybod mwy ewch i’n tudalen Just Giving https://www.justgiving.com/crowdfunding/from-dairy-to-defibs.”

Mae’r cwmni hefyd yn cydweithio ag Achub Bywyd Cymru - y rhaglen genedlaethol i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn barod ac wedi’u grymuso i weithredu’n gyflym os bydd ataliad ar y galon.

Dywedodd Tomos Hughes, Cydlynydd Cymunedol Achub Bywyd Cymru ar gyfer gogledd Cymru, “Mae cymunedau ffermio a gwledig wedi gofalu am ei gilydd erioed a dyna pam mae’r prosiect hwn mor bwysig. Gall unrhyw un wneud CPR a defnyddio diffibriliwr a bydd cael yr offer achub bywyd hwn ar gael yn rhwydd yn helpu i achub mwy o fywydau.

“Mae CPR yn hawdd i’w wneud a chofiwch y bydd y derbynnydd galwadau 999 yno i’ch cefnogi a’ch tywys drwy’r broses. Mae gwneud rhywbeth bob amser yn well na gwneud dim o gwbl. Gallwch adnewyddu eich sgiliau yn Achub Bywyd Cymru.

“Mae hwn yn gydweithrediad gwych rhwng Hufenfa De Arfon a chymunedau gwledig. Rydyn ni’n ddiolchgar am eu cefnogaeth wrth helpu i gynyddu’r fflyd o ddiffibrilwyr ar draws cymunedau gwledig yng Nghymru.”