Sach o Wobrau yn ‘Oscars’ y Diwydiant

Daeth Hufenfa De Arfon (HDA) gartref gyda phedair medal aur o’r Gwobrau Rhyngwladol Caws a Llaeth - dwy arian a phump efydd.

Am y tro cyntaf erioed yn ei 120 mlynedd o hanes nid oedd y Gwobrau yn rhan o Sioe Nantwich ar ôl teithio 30 milltir i’r de i Neuadd Bingley ger Stafford - lleoliad sy’n fwy adnabyddus am letya cyngherddau gan rai fel y Rolling Stones a Bruce Springsteen.

Yr unig ddisgiau aur oedd yno y tro hwn oedd rhai wedi eu gwneud â chaws gyda Double Gloucester Aeddfed, Red Leicester, cheddar aeddfed a menyn hallt HDA yn gasglu'r prif wobr. Yn ogystal derbyniodd y cheddar mwyn a cheddar aeddfed wedi sleisio'r fedal arian gyda’r cheddar canolig, Double Gloucester, Caerffili a’r cheddar hanner a llai braster yn casglu’r wobr efydd.

Dywedodd Trystan Povey Cydlynydd Datblygu Cynnyrch Newydd HDA: “rydym yn hapus iawn; dyma’r canlyniad gorau erioed i ni yn y gystadleuaeth Gwobrau Caws Rhyngwladol sy’n feincnod pwysig i safon caws llaeth yn y diwydiant. Mae wedi bod yn flwyddyn lwyddiannus arall i ni yn y digwyddiadau ar hyd a lled y wlad. Credwn ei bod yn bwysig i ni gystadlu yn erbyn y gorau yn ein diwydiant yn rheolaidd. Safon yw canolbwynt popeth rydym yn ei wneud ac mae cystadlu’n gyson yn ein cadw ar flaenau ein traed, ond hefyd mae’n rhoi gwarant i’n cwsmeriaid bod ein cynnyrch o’r safon orau un.”

Ar ôl y gystadleuaeth a’r sioe byw ‘Caru Caws’ a ddilynodd rhoddwyd 150 pwys o’r cawsiau llwyddiannus i FreshFare Cymru.

Dywedodd Sarah Germain, Prif Weithredwraig FreshFare Cymru: “Rydym yn falch iawn o’n partneriaeth gyda Hufenfa De Arfon. Mae caws yn gynhwysyn amryddawn allwch chi ddefnyddio mewn nifer o brydau maethlon. Wrth gydweithio gyda FreshFare Cymru maent yn help ni gefnogi pobl fregus yn ein cymunedau yng Nghymru.”

Mae FreshFare Cymru yn rhan o rwydwaith elusennol cenedlaethol Prydain sy’n ailddosbarthu bwyd gan 18 sefydliad annibynnol sy’n casglu gweddillion bwyd o safon dda o fewn y diwydiant bwyd i dros 10,500 o elusennau a grwpiau cymunedol.