Difyrru Enillwyr Sainsbury’s

Fe wnaeth Sainsbury’s gydweithio gyda HDA i roi cyfle i ddarllenwyr eu cylchgrawn i ennill tair noson foethus i ddau yng Ngwesty Portmeirion, trip opsiynol i Geudyllau Llechwedd a thaith VIP o’r Hufenfa ac ymweliad fferm. Yr ennillydd lwcus oedd Doreen Hampton o Swydd Amwythig a gwahoddodd ei ffrind Anne Day i fwynhau’r profiad gyda hi.

Daeth y ddwy wraig fonheddig ar safle ar 15fed Gorffennaf a gofalwyd amdanynt gan Richard Jones, Rheolwr Technegol. Eglurodd y rheolwyr gweithredol a’u staff y prosesau gwneud caws a phacio caws. Yna aethpwyd â hwy i weld yr adnoddau ar fferm un o’r aelodau i Plas Llwyndyrus, drwy garedigrwydd Dyfed a Llinos, i ddysgu mwy am y byd ffermio a chynhyrchu llaeth.

Bu’r diwrnod yn un pleserus i ni a’r gwesteion.

Fe wnaeth Doreen ac Anne fwynhau’r diwrnod yn arw gan arsylwi “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i chi am y daith ddoe. Roedd yn hynod o ddiddorol a rydym yn gwerthfawrogi’r holl amser y gwnaethoch dreulio gyda ni. Roedd pawb mor glên. Dymunwn y gorau i’r cwmni yn y dyfodol” .

www.portmeirion-village.com

www.llechwedd-slate-caverns.co.uk

www.sainsburysmagazine.co.uk