Gwobrau Rhyngwladol i HDA

Unwaith eto mae Hufenfa De Arfon wedi profi bod ei chaws ymhlith y gorau un yn dilyn derbyn pump o’r gwobrau gorau yn y Gwobrau Caws Rhyngwladol. Fe wnaeth Caws Pob Cymreig yr Hufenfa ennill ‘Aur’, y Caerffili traddodiadol ‘Arian’ ac ‘Efydd’, Cheddar Aeddfed Coch ‘Efydd’ a chafodd y Red Leicester gymeradwyaeth uchel yn y sioe. Cydnabyddir hon y digwyddiad caws mwyaf yn y byd.

Mae’n llwyddiant ysgubol i’r cwmni ffermwyr llaeth cydweithredol gan fod 4443 yn cystadlu eleni o 26 gwlad. Mae’r cawsiau i gyd yn cael eu blasu gan banel o arbenigwyr y diwydiant.

“Mae’r cynhyrchion i gyd yn cael eu blasu yn ddienw, felly mae’r ffocws i gyd ar flas a safon yn hytrach na brand neu becynnu coeth” eglurodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon. “Mae gwobrau fel rhain yn cynnig meincnod amhrisiadwy o safon i gynhyrchwyr. Mae’r ornest yn y Gwobrau Caws Rhyngwladol yn arbennig o galed gan fod cynifer yn cystadlu. Felly rydym yn ofnadwy o falch o ddod adra efo pum gwobr eleni. Mae derbyn gwobrau arwyddocaol am ein brand Dragon yn ein caniatáu i ddangos yr amrywiaeth rhagorol o gynnyrch sydd gennym.”

http:/www/nantwichshow.co.uk