Arddangosfa Bwyd Rhyngwladol

Bydd Hufenfa De Arfon yn cael ychydig o newid o dirwedd mynyddig Gogledd Cymru ac yn mynd i’r ddinas fawr yn Llundain i lansio’r Cheddar Dragon yn swyddogol yn yr Arddangosfa Bwyd Rhyngwladol ar 22ain Mawrth (stondin N1506).

Y cheddar Dragon fydd yn cael prif sylw stondin Hufenfa De Arfon yn ystod y sioe pedwar diwrnod a bydd cryn bwyslais yn cael ei roi ar darddiad a hanes y brand a’r caws. Mae’r cheddar Cymreig o geudwll llech wedi cael ei ddatblygu ar y cyd gyda Ogofau Llechi Llechwedd ac mae’r broses gyfan yn tynnu sylw at hanes Cymreig y caws. Gwneir y caws o laeth Cymreig a gynhyrchir gan aelodau’r Hufenfa ac yna mabwysiadir dull traddodiadol iawn o aeddfedu. Cludir y caws o’r Hufenfa i Ogofau Llechi Blaenau Ffestiniog a gadewir ef yno 500 troedfedd o dan y ddaear i aeddfedu. Mae’r broses aeddfedu yma yn ychwanegu nodweddion unigryw i’r caws; ansawdd cadarn a dyfnder blas sawrus a safon bwyta gwerth chweil.

Mae’r caws ar gael mewn pecyn 200g a blociau 1.25kg mewn cwyr o dan frand Dragon Hufenfa De Arfon.

Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr “Bydd yr IFE yn darparu llwyfan perffaith i lansio’r cheddar o’r ceudwll i’r masnachwyr byd eang. Mae’r sioe yma yn sioe allweddol o fewn y diwydiant bwyd ac mae’n denu prynwyr o ben ban byd ac o bob sector: archfarchnadoedd, gwasanaeth bwyd ac allforio. Rydym hefyd yn awyddus i barhau i ehangu’r brand Dragon yn rhyngwladol. Mae’r cheddar Cymreig o’r ceudwll llechen yn cynnig rhywbeth gwahanol iawn ac rydym yn hyderus y bydd diddordeb mawr yn y sioe.”

http://www.ife.co.uk

http://www.llechwedd-slate-caverns.co.uk