Cynhadledd Blynyddol Lidl
O fewn ychydig fisoedd o ddechrau cyflenwi Lidl â chaws ar gyfer eu storfeydd yng Nghymru, gwahoddwyd Hufenfa De Arfon i Gynhadledd Flynyddol Lidl. Roeddem yn un o wyth cyflenwr yn unig i arddangos ein cawsiau Cymreig newydd i bwysigion Lidl. Mae’r amrywiaeth caws yn cynnwys Cheddar Cymreig Mwyn, Cheddar Cymreig Canolig, Cheddar Cymreig Aeddfed a Cheddar Cymreig Goraeddfed; fe’u cyflenwir i gyd o dan frand Valley Spire Lidl. Dyma’r tro cyntaf i Lidl roi cynnyrch caws sy’n llwyr Gymreig yn eu siopau yng Nghymru. Gwneir cawsiau Cymreig Valley Spire Lidl i gyd gyda llaeth Cymreig a gynhyrchir gan ffermwyr llaeth Hufenfa De Arfon.
Dim ond un o’n llwyddiannau diweddar oedd ein rhan yng nghynhadledd fwyd Lidl. Yn ystod 2016, rydym wedi derbyn bron i 30 o wobrau am ein caws a menyn mewn digwyddiadau mawreddog fel Gwobrau Caws Prydain, Gwobrau Caws y Byd, Gwobrau Caws Byd Eang a Gwobrau Caws Rhyngwladol. Enillodd pob un o’r cawsiau a wneir yma y gwobrau gorau yn cynnwys y Cheddar Clasurol gyda Chennin a’r cynhyrchion rhanbarthol fel Caerffili a Double Gloucester. Fe wnaeth ein menyn Cymreig hallt ennill nifer o wobrau hefyd.