Cytundeb Caws M&S
Mae Hufenfa de Arfon wedi diogelu busnes i gyflenwi cheddar Cymreig i Marks and Spencer.
Bellach mae’r storfa yn stocio’r brand Dragon, Cheddar Cymreig Aeddfed Iawn a Cheddar Cymreig Aeddfed mewn 24 o’u storfeydd ledled Cymru. Gwneir y caws gyda llaeth sy’n 100% Gymreig gan fuchesi llaeth ein 130 aelod ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru. Bydd y busnes yma yn rhoi cynnyrch lleol sydd wedi ei wneud a’i bacio yn Hufenfa De Arfon yn Chwilog yn Llŷn ar fyrddau miloedd yn rhagor o gwsmeriaid.
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr “rydym yn falch iawn bod M&S wedi gofyn i ni gyflenwi ein cheddar Cymreig i’w storfeydd yng Nghymru. Mae M&S yn siop draddodiadol ar y stryd fawr ac rydym yn hapus dros ben i fod yn rhan o’u hymgyrch i roi mwy o gynhyrchion lleol ar eu silffoedd bwyd. Mae gwybod bod llaeth gwartheg Cymreig ar silffoedd siop Brydeinig mor arwyddocaol yn hwb mawr i ein ffermwyr a’r gymuned ehangach. Mae’n amser cyffrous i Hufenfa De Arfon wrth i ni ehangu i farchnadoedd newydd a chynyddu dewis ein cynnyrch gan fynd a chynnyrch Cymreig i hyd yn oed mwy o gwsmeriaid.”
Dywedodd Linda Lewis-Williams, Rheolwraig Datblygu Cynnyrch Newydd, “mae gennym ddewis gwych o gynhyrchion ac mae’n gyffrous iawn bod M&S wedi penderfynu stocio cheddar Cymreig brand Dragon ar eu silffoedd cynnyrch lleol. Mae’n dystiolaeth o safon y cynnyrch a sgiliau ein ffermwyr a staff a gobeithiwn y byddwn yn cyhoeddi mwy o newyddion cyffrous yn y misoedd nesaf.”