Manhum Toru

Croesawyd Manhum Toru i HDA am fis o brofiad gwaith, hynny i gynorthwyo gyda phrosiect busnes caws y teulu ym Mhakistan. Graddiodd Manhum o Brifysgol Middlsex gyda BBA mewn Rheolaeth Twristiaeth a Lletygarwch. Aeth ymlaen gyda’i haddysg uwch a chwblhau ôl-radd mewn Rheolaeth Arlwyaeth yn UAE. Ar ôl dilyn gyrfa mewn lletygarwch mae bellach wedi ymuno â busnes llaeth a chaws y teulu ym Mhakistan.

Busnes bach lleol yw Cwmni’r teulu, “The cheese and dairy factory” wedi ei leoli ar gyrion Islamabad. Fe’i sefydlwyd yn 2005 fel ffatri laeth a thros amser maent wedi mentro i gynhyrchu caws o dan yr enw “La vista”. Cynnyrch nodedig y cwmni yw mozzarella Eidalaidd a ddosbarthir yn bennaf i fwytai pizza a sefydliadau bwyd cyflym eraill, ynghyd â cheddar mwyn. Mae eu cynhyrchion wedi hen sefydlu ar y marchnadoedd cartref, ond mae’r galw am cheddar artisan neu gawsiau gydag ychwanegion yn cynyddu’n fawr.

Gan eu bod am droedio i sector gwahanol yn y diwydiant bwyd, teimlai Manhum y byddai’n fuddiol iddi gael profiad yn y maes, felly dyma hi yma efo ni yn HDA am mis Tachwedd. Arsylwodd Manhum “hyd yn hyn mae wedi bod yn bleser, ysgogiad ac yn llawn gwybodaeth! Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i gael fy mentora gan unigolion sy’n meddu gwybodaeth a dealltwriaeth eang iawn am y sector, a ffactorau canolog eraill sy’n berthnasol i’r diwydiant”.

Yn y dyfodol mae Manhum yn gobeithio integreiddio beth mae wedi ei ddysgu, yn ei geiriau hi, “gan connoisseurs yn yr hufenfa hon” a darparu ‘niche’ i wlad sydd eto i archwilio blasau caws gwahanol.”