Enwebiad Gwobr Co-op Cenedlaethol
Newyddion gwych! Mae Hufenfa De Arfon gyda siawns i ennill gwobr Cydweithfa’r Flwyddyn 2017 mewn cystadleuaeth genedlaethol ym Mhrydain a gofynnwn i’r cyhoedd ddatgan eu cefnogaeth yn ein hymgais i ennill y brif wobr. Gall aelodau o’r cyhoedd bleidleisio i’r Hufenfa ar lein trwy fewngofnodi i www.uk.coop/COTY cyn hanner nos ar 25 Mehefin.
Mae’r Hufenfa ar restr fer categori ‘Cydweithfa Blaenllaw y Flwyddyn’ gan fod tystiolaeth glir bod y busnes yn llwyddo’n barhaus ac oherwydd bod ganddi strategaeth glir i ddiogelu a datblygu’r busnes i’r dyfodol i’w haelodau. Yn ystod y flwyddyn olaf mae Hufenfa De Arfon wedi buddsoddi miliynau mewn ffatri gaws ac uned pacio caws newydd ac mae wedi caniatáu i’r cwmni gynyddu ei medr cynhyrchu o 25 y cant a chreu 20 o swyddi newydd. Agorwyd y cyfleuster newydd yn swyddogol ar 5ed Gorffennaf 2016 gan Dywysog Cymru a Duges Cernyw. Yn fuan ar ôl agor y ffatri cynhyrchu newydd, enillodd yr Hufenfa’r cytundeb i gyflenwi amrywiaeth caws ‘Basics’ Sainsbury’s, cymysg o 13 cynnyrch. Yn ogystal enillodd y gydweithfa cytundeb i gyflenwi amrywiaeth o Cheddar Cymreig i Lidl Uk.
Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon: “Rydym yn hapus iawn o fod ar restr fer Gwobr Cydweithfa Blaenllaw. Sefydlwyd y cwmni ffermwyr llaeth cydweithredol yn 1938 ac rydym yn falch iawn o’n llwyddiannau. Mae pob un aelod sy’n cyflenwi llaeth i ni efo cyfranddaliadau yn y cwmni a hwy yw calon popeth rydym yn ei wneud. Ein nod yw cynnig adenillion cynaliadwy i’n haelodau, ac er mwyn gwneud hynny mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar y cwsmer trwy fod yn effeithlon, arloesol a hyblyg i’w anghenion hwy. Mae’r cwmni yn parhau ar ei thaith, rydym wedi gwneud cynnydd da yn y blynyddoedd diweddar ond mae digon i’w wneud eto. Canolbwyntiwn nawr ar sicrhau bod y buddsoddiadau rydym wedi eu gwneud yn dwyn ffrwyth er budd ein haelodau a staff. Gobeithiwn y bydd pobl yn barod i roi eu hamser i bleidleisio i ni. Buasai ennill yn destament i gyfranddalwyr yr hufenfa a’r gydweithfa i gyd.”
Buasem yn ddiolchgar pe baech yn dangos eich cefnogaeth i Hufenfa De Arfon trwy bleidleisio i ni. Ymwelwch â www.uk.coop/COTY cyn hanner nos 25 Mehefin. Cyhoeddir yr enillydd yn y Gyngres, cynhadledd flynyddol cydweithfeydd yn Wakefield ar 30 Mehefin.