Gwobr Cyfraniad Arbennig
Derbyniodd Mr Rhisiart Tomos Lewis wobr Undeb Amaethwyr Cymru/HSBC am ei gyfraniad arbennig i Ddiwydiant Llaeth Cymru yn Sioe Laeth Cymru yng Nghaerfyrddin ar 14 Hydref. Cyflwynodd y Dirprwy Weinidog Amaeth, Rebecca Evans y wobr i Mr Lewis yng nghwmni Llywydd UAC, Emyr Jones a Rheolwr Amaeth De Cymru HSBC, Nigel Williams.
Yn fwy adnabyddus yn lleol fel ‘Dic Coed Cae Gwyn’ mae ganddo fuches laeth o 140 gyda heffrod wedi eu magu gartref yn agos i’r Hufenfa. Yn 1974 cafodd ei ethol ar Fwrdd Cyfarwyddwyr y Gymdeithas ac yna yn Gadeirydd yn 1997 a wasanaethodd tan 2011. Heddiw erys yn aelod Anweithredol ar y Bwrdd.
Mae gan Mr Lewis wybodaeth eang am y diwydiant llaeth ac mae wedi cyfrannu at nifer o bwyllgorau cenedlaethol dros y blynyddoedd ac wedi teithio yn rheolaidd ledled Prydain, Ewrop a Gogledd America i gynrychioli’r diwydiant llaeth.
Mae’n wr penderfynol ac mae ei gyfraniad a’i deryngarwch i’r Gymdeithas wedi bod yn amhrisiadwy i’w llwyddiant a chynaladwyedd ac mae’n llwyr haeddu y gydnabyddiaeth yma gan UAC/HSBC. Llongyfarchwn ef ar ei lwyddiant.