Blwyddyn o Dorri Recrod

Hufenfa De Arfon yn torri record wrth ennill 80 gwobr ar ôl i'w cynhyrchion Cymreig greu argraff ar arbenigwyr bwyd

Mae Hufenfa De Arfon yn dathlu torri pob record ar ôl creu argraff ar feirniaid ac ennill 80 o wobrau am ei hamrywiaeth eang ac arloesol o gawsiau a menyn a wneir gyda llaeth Cymreig.

Mae arbenigwyr ar draws Prydain wedi dyfarnu ugain o wobrau aur i HDA yn 2019, yn cynnwys y prif wobrau am y Cheddar newydd wedi cochi a wneir mewn partneriaeth gyda gwneuthurwyr Halen Môn, ynghyd â'r cheddar clasurol mwyn ac aeddfed.
Fe wnaeth y gydweithfa argraff ar rai o'r beirniaid yn y sioeau bwyd a diod mwyaf blaenllaw'r wlad yn cynnwys Gwobrau Caws Prydain a gynhelir yn flynyddol yn Sioe Caer Faddon a'r Gorllewin, Sioe Royal Highland yn yr Alban a Gwobrau Caws Rhyngwladol a gynhelir yn Nantwich.
Ymhlith cawsiau HDA a lwyddodd i ennill gwobrau aur ar draw Prydain yn 2019 oedd cawsiau Caerffili, Wensleydale, Cheshire a Red Leicester, a cheddars aeddfed coch, aeddfed iawn â chennin a hanner braster.

Daeth ein menyn brand Dragon i'r brig yn Sioe Fawr Royal Highland gan ennill y fedal aur a'r wobr pencampwr. Yn ogystal, enillodd ein menyn bum gwobr aur arall yng Ngwobrau Caws Prydain, Sioe Frenhinol Cymru, Sioe Gaws ac Amaeth Frome, Sioe Gwlad yr haf a Sioe Sir Ddyfnaint.

Daeth y cheddar aeddfed adnabyddus gartref gyda'r wobr aur a'r fraint o'r bloc cheddar gorau o Gwobrau Caws Prydain; enillwyd cyfanswm o 15 gwobr i gyd yn y sioe yma yn gynnwys Aur i'r cheddar aeddfed iawn.

Cafwyd cyfanswm o 20 gwobr yn Sioe Frenhinol Cymru yn cynnwys Aur ac Arian i'r cheddar wedi cochi, a gwobrau Aur i'r cawsiau Wensleydale, Cheshire ac aeddfed coch.

Daethpwyd gartref gyda swm da o wobrau eraill trwy'r flwyddyn. Derbyniwyd aur yn Sioe Gaws ac Amaeth Frome am y Caerffili, cheddar clasurol gyda chennin, cawsiau hanner braster; gwobrau cyntaf i cheddar aeddfed, Red Leicester, Cheshire, Cheddar clasurol gyda chennin a'r menyn yn sioe Glwad yr Haf; ac yn Sioe Dyfnaint derbyniodd y caws llai braster a'r menyn wobrau cyntaf.

Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr: “Rydym yn hapus iawn o ennill 80 gwobr a'i bod wedi bod yn flwyddyn o dorri record i Hufenfa De Arfon. Mae'r canlyniadau yn dystiolaeth o safon ragorol llaeth ein haelodau ar draws gogledd a chanolbarth Cymru, a'r gwaith parhaus a enwir gan ein staff yma ym Mhenrhyn Llyn i gynnal safon mor uchel ar gyfer pob un cynnyrch. Roeddem yn falch eleni o lansio cawsiau crefft llaw newydd ac roedd yn wych gweld y cheddar wedi cochi a wneir ar y cyd gyda Halen Môn yn derbyn cymaint o wobrau. Rydym yn gweithio'n barhaus i ddatblygu cynhyrchion newydd ac i fireinio'r rhai a wneir yn barod, a bydd hyn yn parhau wrth i ni ddal ati i sicrhau bod rhagor o gyflenwyr bwyd yn rhoi cynhyrchion a wneir yma yng Nghymru ar fyrddau mwy a mwy o gefnogwyr cynnyrch llaeth."