Elw Gorau Erioed
Mae Hufenfa De Arfon wedi cofnodi’r elw gorau erioed yn y cyfnod hyd at Mawrth 2017. Gwnaethpwyd elw gweithredol o bron i £3 miliwn (9%) ar werthiannau o £33.1 miliwn o gymharu ag elw o £389k (1.2%) ar werthiannau o £31.7 miliwn yn 2016.
Y prif resymau am y perfformiad ariannol llawer gwell oedd y gwelliant yn y marchnadoedd llaeth sylfaenol yn ail hanner y flwyddyn, cwblhau dau brosiect cyfalaf mawr a chael llyfr gwerthiannau safonol.
Arsylwodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr “Mae’r canlyniadau am y cyfnod yn dderbyniol iawn ac mae’n adlewyrchu’r cynnydd mae’r gydweithfa wedi ei wneud yn ei gweithgareddau i gyd yn y blynyddoedd diweddar. Ar ôl cwblhau dau brosiect cyfalaf mawr yn y ddwy flynedd diwethaf, rydym yn canolbwyntio nawr ar sicrhau bod y perfformiad gwell yma’n cael ei gynnal yn y tymor hir er budd ein ffermwyr a staff. Mae gennym strategaeth glir ar gyfer rhagor o dwf sy’n cynnwys ehangu ein cyflenwad llaeth Cymreig a bydd hynny’n cefnogi amaeth Cymru a’r economi leol ymhellach eto.”
Mae’r Cwmni yn cyflogi oddeutu 130 o staff llawn amser lleol ac mae nifer y gweithlu wedi codi o 30 yn ystod y flwyddyn. Mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn argymell difidend sgript i’w 127 o ffermwyr aelodau sydd cyfwerth â 0.5cyl o’u cynhyrchiant blynyddol; bydd hyn yn golygu bydd aelodau ar gyfartaledd yn derbyn £3,750 o gyfranddaliadau ychwanegol.