Elw yn Torri Record
Mae Hufenfa De Arfon wedi torri record gan wneud elw gweithredol o £3.4 miliwn ar werthiant o £61.5 miliwn.
Mae Hufenfa De Arfon wedi torri record gan wneud elw gweithredol o £3.4 miliwn ar werthiant o £61.5 miliwn. Cyflawnwyd hynny ar y cyd â dechrau gwaith ehangu sylweddol ar y safle i gynyddu cynhyrchiant caws o’r 15,000 tunnell y flwyddyn presennol i 23,000 tunnell.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr: “y brif flaenoriaeth yn ystod y pandemig oedd iechyd a lles ein staff ffyddlon a gwneud be y gallem i gyfyngu effaith y firws ar y busnes a’i chwsmeriaid. Ond mewn blwyddyn na welwyd ei thebyg mae canlyniadau’r busnes yn gadarn ac rydym wedi parhau i dalu un o’r prisiau llaeth gorau yng Nghymru i’n haelodau.”
Derbyniodd yr aelodau, rhai wedi bod gyda’r gydweithfa ers ei dechreuad yn 1938, ddifidend diwedd blwyddyn hefyd a dosbarthwyd bron i chwarter o elw’r Cwmni Cydweithredol. Adferodd y marchnadoedd llaeth yn gyflym ym misoedd cyntaf y pandemig ac fe wnaeth y cynnydd yng ngwerthiant yr archfarchnadoedd ar draws Prydain wneud iawn am ostyngiad y gwerthiannau eraill.
Daw hyn yn dilyn patrwm cadarn o dwf gyda gwerthiant yn dyblu yn y bum mlynedd olaf o £30 miliwn i £60 miliwn sy’n golygu ein bod wedi cyrraedd gallu cynhyrchiant presennol y ffatri. Proseswyd cyfaint llaeth mwyaf ar record yn y 12 mis olaf a disgwylir i’r patrwm yma barhau wrth i’r busnes dyfu.
Rydym wedi hen arfer gweithredu mewn marchnad fyd-eang gyfnewidiol, ond ni allai neb fod wedi rhagweld heriau’r llynedd pan darodd argyfwng Cofid. Yn ogystal, mae trefniadau masnachu newydd Brexit wedi ychwanegu costau ac mae gweinyddu allforion yn cael effaith negyddol ar adenillion Prydain gan wneud gwerthu cynnyrch i’r farchnad ehangach yn anoddach a mwy costus nag yn y gorffennol.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr: “bydd y flwyddyn nesaf yn parhau’n heriol wrth i ni reoli’r busnes ac amgylchiadau’r pandemig a gweld chwyddiant costau deunyddiau crai ac uwchgostau yn dod yn amlwg. Yn gadarnhaol bydd yr economi byd eang yn parhau i adfer ac mae sylfaeni’r sector llaeth yn edrych yn bositif. Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar gyflawni ein hamcanion a’r cyfleodd ymlaen ac rydym mewn sefyllfa dda i gyflawni canlyniadau busnes tymor hir y busnes a ffyniant i’n cyfranddalwyr.”
Cefnogir y gwaith ehangu ‘Prosiect Dragon’ gan Lywodraeth Cymru gyda £5 miliwn o’r Cynllun Buddsoddi Busnes Bwyd, Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a’r nod yw cynyddu gallu cynhyrchiant a gwella perfformiad gweithredol ag amgylcheddol. Mae cam cyntaf y prosiect, sef uned trin gwastraff yn agosáu at gael ei gwblhau ac mae gwaith ar ddechrau i gynyddu gallu cynhyrchiant a gosod uned maidd newydd.