Agoriad Brenhinol

Fe wnaeth Tywysog Cymru a Duges Cernyw agor uned cynhyrchu caws newydd Hufenfa De Arfon yn swyddogol ddydd Mawrth, 5ed Gorffennaf.

Bu Eu Huchelderau Brenhinol o gylch safle’r Hufenfa, a chyfarfod gyda staff ac aelodau’r gydweithfa laeth a berchnogir gan 127 o ffermwyr sy’n ffermio yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru. Cafodd Tywysog Cymru a Duges Cernyw gyfle i flasu rhai o’n cawsiau sydd wedi ennill nifer o wobrau, yn cynnwys y Cheddar Cymreig o’r Ceudyllau Llechi a ddatblygwyd ar y cyd gyda Sainsbury’s a Cheudyllau Llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog.

Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr yr Hufenfa “Rydym yn anrhydeddus iawn bod Tywysog Cymru a Duges Cernyw wedi agor ein huned caws newydd yn swyddogol. Roeddem yn falch iawn o’r cyfle i ddangos ein cyfleusterau newydd i Eu Huchelderau Brenhinol ac roedd yn ddigwyddiad hanesyddol i’r Cwmni a’r Gymdeithas. Roedd yn bleser gweld cynifer o aelodau a staff yn bresennol ar y diwrnod mawreddog yma ac rwy’n siwr y bydd yn un y byddwn i gyd yn cofio am byth.”

Dywedodd Moss Jones, Llywydd yr Hufenfa “Rydym yn ddiolchgar iawn bod Eu Huchelderau Tywysog Cymru a Duges Cernyw wedi neilltuo amser yn eu rhaglen brysur i ddod i Hufenfa De Arfon. Buasem yn hoffi diolch i’r Uchelderau Brenhinol, Tywysog Cymru a Duges Cernyw am eu cefnogaeth ddiysgog a hirfaith i ffermydd Cymreig traddodiadol sydd wedi bod yn asgwrn cefn yr hufenfa ers ei dechreuad yn 1938.”

Fe wnaeth Malcolm Hughes, cynhyrchwr ac aelod o fferm Yokehouse ger Pwllheli gyfarfod â’r Tywysog a dywedodd: “Mae’r uned caws newydd yn rhywbeth cadarnhaol iawn i’r Hufenfa ac rydym yn falch iawn bod Tywysog Cymru a Duges Cernyw wedi gwneud amser i’w agor yn swyddogol.”

Mae Elinor Jones, o fferm Cae’r Hafod Isa Sir Ddinbych wedi bod yn aelod ers 2 flynedd ers iddynt newid i ffermio llaeth ac roedd hithau hefyd yn un o’r nifer wnaeth gyfarfod Eu Huchelderau Brenhinol. Dywedodd bod “Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn wybodus iawn am ffermio a bod y ddau wedi mynegi diddordeb mawr yng nghefndir ein fferm.”

Mae Tywysog Cymru gydag ymrwymiad hir sefydlog i gefnogi ac i sicrhau dyfodol cynaliadwy i amaeth Prydain. Yn 2010 sefydlodd EUB Gronfa Cefn Gwlad Y Tywysog, gyda’r nod i greu dyfodol mwy llewyrchus i gefn gwlad Prydain.

Bydd yr Uned Cynhyrchu Caws yn galluogi Hufenfa De Arfon i gynyddu ei medr o 9,500 tunnell i 12,000 tunnell o gaws y flwyddyn.