Sioe Frenhinol Cymru 2016

Mae Sioe Frenhinol Cymru yn ddyddiad pwysig yn y calendr i ni gan ei fod yn gyfle i gyfarfod ag aelodau, cwsmeriaid a chysylltiadau’r diwydiant. Eleni bu entrepreneurs yfory efo ni am y diwrnod i arddangos byrddau llechi gweini caws owedd wedi eu dylunio gan blant lleol o Ysgol Pentreuchaf.

Yn gynharach eleni cysylltodd yr ysgol ger Pwllheli â ni yn godyn am gymorth gyda phrosiect i addysgu plant ysgol gynradd am fusnes a marchnata. Galwodd y disgyblion y prosiect yn ‘Menter Llechen Lân’ a dyma oedd canolbwynt eu gwaith yn ystod tymor yr haf. Treuliodd y plant fisoedd yn dylunio a chysylltu gyda Chwmni Cerrig i greu amrywiaeth o gynhyrchion llechi. Cytunwyd ar fwrdd llechen i weini ein caws ni, y cheddar o’r ceudyllau llechi yn benodol. Cludir y caws yma o Chwilog i Geudyllau Llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog i aeddfed 500 troedfedd o dan ddaear; credir mai rhain yw y ceudyllau dyfnaf un a ddefnyddir i aeddfedu caws. Mae’r Cheddar o’r Ceudwll ar gael yn ein brand Dragon mewn storfeydd ar draws Cymru ac yn genedlaethol yn Lidl.

Daeth y disgyblion i swyddfeydd y Cwmni fis Mehefin i gyflwyno eu dyluniadau mewn fforwm tebyg i ‘Dragon’s Den’. Cafodd y prototeipiau llwyddiannus eu creu a’u harddangos a’u gwerthu ar ein stondin ni yn y neuadd fwyd yn Sioe Frenhinol Cymru.

Dywedodd Linda Lewis-Williams, Datblygwraig Cynnyrch “Roeddem yn falch iawn o weithio gyda Ysgol Pentreuchaf i helpu entrepreneurs y dyfodol. Fe wnaethant ddeall yr anghenion a gafael yni yn y prosiect. Mi wnaethant greu cryn argraff gyda’u dyfeisiadau a’u dull gweithio. Roeddem mor hapus o gael y byrddau caws gorffenedig yn Sioe Frenhinol Cymru ac mi oeddent o help mawr i ni arddangos y cheddar o’r ceudwll.”

Profodd y prosiect yn boblogaidd iawn yn y sioe gan dynnu sylw arbenigwr bwyd Radio 2 Nigel Barden a chriw Heno S4C.