Ffair Aeaf Frenhinol Cymru
Cynhelir y Ffair Aeaf ym mherfeddion Cymru wledig ac mae’n adnabyddus fel un o’r sioeau da byw gorau ym Mhrydain, mae gan y Ffair Aeaf rywbeth sy’n apelio i bawb.
Ymunwch â ni ar 1af a 2il Rhagfyr 2014 yn y Ffair Aeaf.
Wrth gwrs, prif atyniad y sioe yw’r arddangosfa da byw mawreddog. Ar gyfartaledd, mae 1400 o gystadleuwyr yn dangos eu hanifeiliaid pob blwyddyn ac yn arddangos ffermio Prydain ar ei orau. Ceir arddangosfeydd Ieir, cwn a phedoli.
Yn ogystal mae 300 o stondinau ac atyniadau eraill yn cynnwys: Neuadd Fwyd, Coginio, Cynnyrch a Chrefftau, Blodau, Hen Greiriau ac Anrhegion Nadolig.
Byddwn yn un o’r stondinau yma yn gwerthu ein cynnyrch llaeth Cymreig gorau a’r Caws Newydd o’r Ceudwll Llechen.