HDA ar Restr Fer Gwobrau Busnesau
Mae Hufenfa De Arfon ar restr fer rownd olaf Gwobrau Busnes Gwledig Cymru a Gogledd Iwerddon yn y categori Busnes Bwyd a Diod Gwledig Gorau.
Mae Hufenfa De Arfon wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Busnesau Gwledig Cymru a Gogledd Iwerddon yn y categori Busnes Bwyd a Diod Gwledig Gorau.
Mae’r Hufenfa yma yn Chwilog ers dros 80 mlynedd a dyma’r gydweithfa ffermwyr llaeth hynaf a mwyaf Cymru wedi ei sefydlu yn 1938 ym Mhen Llŷn.
Bellach, cynhyrchir 13,000 tunnel o gaws y flwyddyn yn defnyddio llaeth Cymreig yn unig, yn cynnwys brand caws mwyaf Cymru, cynhyrchion Dragon ynghyd ag amrywiaeth o gynhyrchion eraill ar gyfer yr archfarchnad, cyfanwerthu a marchnadoedd allforio.
Yn y flwyddyn olaf roedd gwerthiant werth £50m dyma record i’r busnes a rhoddwyd £37 miliwn o hwn yn ôl i economi wledig Gogledd a Chanolbarth Cymru drwy daliadau i ffermwyr, hynny ar ben £4 miliwn a dalwyd mewn cyflogau i staff.
Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys amrywiaeth Dragon newydd, cynnyrch llawn yn cynnwys cawsiau newydd a gynhyrchir ar y cyd gyda busnesau Cymreig eraill. Yn ddiweddar maent ymhlith stoc y mawrion Tesco ar draws 30 o’u storfeydd mwyaf yng Nghymru.
Mae’r amrywiaeth, a brofwyd yn ddiweddar gan Ddug a Duges Caergrawnt yn cynnwys Cheddar wedi Cochi gyda Gwiniolen a ddatblygwyd gyda Halen Môn, Cheddar wedi Aeddfedu mewn Ceudwll Llechen yng ngheudyllau llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog a Cheddar Wisgi Penderyn.
Bwriad Gwobrau Busnesau Gwledig yw rhoi cydnabyddiaeth i fusnesau ar draws y sector gwledig, i ddathlu llwyddiannus busnesau gwledig, o fusnesau peirianneg i gynhyrchwyr bwyd a sefydliadau gwasanaethau proffesiynol.
Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis gan banel o feirniaid annibynnol ac fe’u cyhoeddir mewn prynhawn gwobrwyo ddydd Gwener, 8fed Tachwedd 2019 ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Alan Wyn Jones: “Rydym yn falch iawn o gael ein rhoi ar y rhestr fer i ennill Gwobr Busnes Gwledig. Rydym yn ymfalchïo yn ein hanes yma yn HDA. Rydym yn gweithio’n galed i gefnogi bywoliaethau gwledig trwy wneud cynnyrch lleol o safon, ychwanegu gwerth i’r llaeth mae ein ffermwyr yn ei gynhyrchu gyda’n cawsiau sy’n cael ei datblygu o hyd. O dro i hynny cyflawni’r pris gorau posib ar gyfer allbwn ein ffermwyr. O’r fuwch i’r cownter, mae pawb yn HDA yn cynnwys aelodau, staff, cyflenwyr, archfarchnadoedd, cyfanwerthwyr a chwsmeriaid yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cyfrannu’n gadarnhaol i’r economi leol.”
Mae’r gydweithfa yn gyflogwr lleol pwysig yng Ngwynedd wledig gyda 98% o’r 127 o staff yn byw o fewn 20 milltir o’r ffatri ac mae’r Cwmni yn falch iawn o gefnogi ei gweithlu sgiliedig.
Rydym yn falch iawn o gael ein rhoi ar y rhestr fer i ennill Gwobr Busnes Gwledig. Rydym yn ymfalchïo yn ein hanes yma yn HDA. Rydym yn gweithio’n galed i gefnogi bywoliaethau gwledig trwy wneud cynnyrch lleol o safon, ychwanegu gwerth i’r llaeth mae ein ffermwyr yn ei gynhyrchu gyda’n cawsiau sy’n cael ei datblygu o hyd. O dro i hynny cyflawni’r pris gorau posib ar gyfer allbwn ein ffermwyr. O’r fuwch i’r cownter, mae pawb yn HDA yn cynnwys aelodau, staff, cyflenwyr, archfarchnadoedd, cyfanwerthwyr a chwsmeriaid yn hanfodol i sicrhau ein bod yn cyfrannu’n gadarnhaol i’r economi leol.