Ymweliad Ogofau Llechi Sainsbury’s

Roedd Hufenfa De Arfon yn falch iawn o groesawu pedwar aelod o staff allweddol archfarchnad Sainsbury’s i’w ffatri. Trefnwyd i Susi Richards (Pennaeth Datblygu Cynnyrch), Madeline Wilson (Rheolwraig Technegol Cynnyrch), Win Merrells (Arbenigwr Datblygu Caws), ac Amy Chandler (Technegydd Caws) yn dilyn lansio Cheddar mae Hufenfa De Arfon yn ei gynhyrchu yn arbennig i Sainsbury’s.

Mae Hufenfa De Arfon wedi cydweithio gydag Ogofau Llechi Llechwedd i lansio Cheddar newydd ac unigryw, Cheddar Cymreig o Geudwll Llechen i Sainsbury’s.

Cludir y caws o Hufenfa De Arfon ger Pwllheli i Ogofau Llechwedd yng nghanol Eryri i ddechrau ar ddull aeddfedu sy’n draddodiadol iawn. Cedwir y cheddar 500 troedfedd o dan ddaear yn yr ogofau dyfnaf i’w aeddfedu.

Lansiwyd y caws mewn bloc 1.25kg i ddechrau, mewn cwyr o liw llechen glas gydag arfbais Dragon arno, ac mae ar gael ar gownteri deli Sainsbury’s. Bwriedir lansio pecyn 200g o i’w ychwanegu at yr amrywiaeth ‘Taste the Difference’ fis Awst.

Yn ystod yr ymweliad, aeth y criw i’r ogof i weld y caws yn Ogofau Llechwedd, yna i ymweld â fferm Ynysgain Fawr un o aelodau’r Hufenfa ac yna yma i’r Hufenfa.

“Yn amlwg, rydym yn falch bod pedwar o Sainsbury’s wedi cymryd amser prin i deithio yma i’n gweld ni’ dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa. “Bu’r ymweliad yn un defnyddiol i bawb. Yn ogystal â mynd Ogofau Llechwedd i weld y broses aeddfedu, cafwyd y cyfle i ddangos y broses i gyd, o’r dechrau i’r diwedd, oddi ar y fferm i’r cynnyrch gorffenedig. Roedd cyfle hefyd i drafod datblygu cynhyrchion newydd, felly rydym yn mawr edrych ymlaen at weithio ar gyfleoedd eraill hefyd.”