Gwerthiannau HDA yn sboncio i record o £71m ar ôl y pandemig
Mae Hufenfa De Arfon wedi sboncio yn ôl o'r pandemig gan wneud elw o £4.1m ym mlwyddyn ariannol 2021/22.
Fe wnaeth HDA elw o £4.1 miliwn yn y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2022 a gwelwyd gwerthiant yn torri pob record gan godi 17% i £71.5 miliwn.
Mae'r busnes wedi atgyfnerthu trosiant yn ystod y flwyddyn ynghyd a buddsoddi £3.8 miliwn yn eu rhaglen buddsoddi Prosiect Dragon - cynllun pum mlynedd £20 miliwn i gynyddu lefelau cynhyrchiant y Cwmni o 6,000 tunnell y flwyddyn i 23,000 erbyn 2024. Bydd hyn yn creu swyddi newydd a rhagwelir y bydd y gweithlu'n cynyddu i dros 160 erbyn 2024.
Mae Prosiect Dragon hefyd yn cynnwys adnoddau newydd yn y dderbynfa llaeth, ehangu adnoddau cynhyrchiant yn yr adrannau caws a phacio a pharhau i wella defnydd ynni a gwarchod yr amgylchedd.
Dywedodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Alan Wyn Jones "Rydym wedi gwneud cynnydd da mewn cyfnod sy'n parhau yn heriol iawn i bawb ac amgylchiadau na ellir ei ddirnad yn y Wcráin yn ychwanegu at broblemau'r gadwyn cyflenwi yn dilyn ailagor ar ôl y pandemig. Er hynny mae canlyniadau'r busnes yn gadarn - mae trosiant o ran cyfaint a werth wedi codi, ac mae'r elw i fyny ar y llynedd - 5.8% ar werthiant sy'n fwy na'n cyfartaledd dros bum-mlynedd o 4.9%"
Gwelwyd cynnydd mewn gwerthiant o fewn prif farchnad y busnes, archfarchnadoedd Prydain ar ol y pandemig. Roedd defnydd yn y cartref yn arbennig o gadarn gyda gwerthiant busnes i fusnes yn well na'r disgwyl.
Ychwanegodd Alan "mae galw'r cyfanwerthwyr llai a'r gwasanaethau bwyd wedi parhau i adfer ac er nad ydyn wedi cyrraedd i'r un lefel ag yr oeddent cyn y pandemig mae'r elw wedi bod yn well na'r disgwyl. Rydym hefyd wedi gallu talu un o'r prisiau gorau llaeth gorau yng Nghymru i'n haelodau. Ar yr un pryd a chyflawni hyn rydym wedi buddsoddi'n drwm ym Mhrosiect Dragon. Cafodd yr adran elifiant newydd ei gwblhau yn ystod y flwyddyn ac rydym wedi dechrau ar yr adnodd maidd newydd i fod yn weithredol erbyn hydref 2023."
Llwyddodd yr hufenfa i dalu'r ail bris llaeth uchaf yng Nghymru i'w haelodau, a pherchnogion y busnes ar draws gogledd, canolbarth a gorllewin Cymru. Y cyfartaledd am y flwyddyn oedd 31.53c. Yn ogystal neilltuwyd £1 miliwn mewn difidendau i'r aelodau, 25% o elw'r Cwmni.
Dywedodd Alan "Er gwaethaf yr heriau diddiwedd, mae'r busnes wedi symud ymlaen yn dda eleni a pharhau i fuddsoddi yn yr hufenfa er mwyn gwella gallu cynhyrchiant a diogelu'r busnes yn y dyfodol. Mae'r diwydiant llaeth o dan y chwydd wydr oherwydd pryderon am ôl troed carbon amgylcheddol a lles anifeiliaid. Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau o ddifrif a byddwn yn parhau i adeiladu ar y gwaith da mae'r diwydiant eisoes wedi ei wneud yn y maes yma dros y flwyddyn nesaf. Mae agwedd ein cwsmeriaid yn newid ac mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod yn parhau i fwynhau cynhyrchion llaeth blasus a maethlon heb ei gysylltu gyda'r hinsawdd neu les anifeiliaid."
Ni fyddem wedi gwneud y cynnydd yr ydym wedi ei wneud hyd yma heb ymroddiad a gwaith caled parhaus y staff i gyd, sydd wedi parhau i gyflawni i’n haelodau er gwaethaf heriau’r flwyddyn ddiwethaf. Ymestynnir ein diolch iddynt oll.