Gwobrau Byd Eang i HDA
Ynghyd â dathlu ei phen-blwydd yn 75 eleni mae Hufenfa De Arfon yn ymhyfrydu yn ei chasgliad o wobrau, ‘Prydeinig’, ‘Byd Eang a ‘Rhyngwladol’. Eleni yn unig mae’r Hufenfa wedi ennill 17 o wobrau gydag amrywiaeth eang o gynhyrchion yn derbyn cydnabyddiaeth fel y gorau o’r gorau.
Mae cynnyrch Dragon Hufenfa De Arfon yn Amlwg iawn yn y casgliad gwobrau. Daeth y Cwmni Cydweithredol Ffermwyr Llaeth i’r brig gydag amrywiaeth o’u cynnyrch, y cheddar mwyn, canolig, aeddfed a chlasurol yng Ngwobrau Caws y Byd, Gwobrau Caws Prydain, Gwobrau Caws Rhyngwladol, Sioe Fawr Swydd Efrog a Sioe Sir Gaer. Mae’n briodol iawn bod cydweithfa Gymreig wedi ennill y prif wobrau am eu caws mwyaf Cymreig – y Caerffili Dragon a gafodd y marciau gorau ac acolâdau gan Wobrau Caws Byd Eang a Sioe Gwlad yr Haf.
Yn ogystal â’r caws, mae menyn hallt traddodiadol yr Hufenfa wedi derbyn nifer o wobrau, am ei flas a’r pecyn allanol.
“Mae gwobrau yn cynnig asesiad annibynnol a phwynt cyfeirio i safon ac ansawdd yr cynnyrch. Mae gwobrau fel rhain yn bwysig iawn gan fod y prif ganolbwynt ar flas a safon yn hytrach na phecyn coeth. Mae’r ffaith bod amrywiaeth mor eang o’n cynhyrchion wedi derbyn cydnabyddiaeth yn ardystiad annibynnol pellach bod ein cynhyrchion i gyd o safon arbennig o uchel”, eglurodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon. “Yn amlwg, rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn croesdoriad o wobrau. Rydym yn canolbwyntio ar wella safon a gwasanaeth yn barhaus ac mae’r gwobrau yma yn dystiolaeth pellach ein bod yn gwneud cynnydd sylweddol. Mi fydd hyn yn parhau wrth i ni ddal ati i sicrhau ein bod ‘y dewis cyntaf ar gyfer caws Cymreig’. Diolch yn fawr i’r staff ac aelodau ymroddedig am eu gwaith caled i wneud hynny”.