HDA yn Cefnogi Prostate Cymru

Raffl Nadolig Hufenfa De Arfon wedi casglu £633 tuag at Prostate Cymru.

Mae Hufenfa De Arfon wedi ymroi i gasglu arian tuag at achosion da a phob blwyddyn trefnir raffl Nadolig. Dewisodd staff Prostate Cymru ar gyfer y Nadolig sydd newydd fynd heibio.

Mae’n wych adrodd bod raffl Nadolig 2019 wedi casglu £633 tuag at Prostate Cymru. Prostate Cymru yw’r elusen sy’n arwain y blaen ar ofal iechyd prostate yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd yn 2003 ac mae wedi mynd o nerth i nerth yn y ddegawd diwethaf. Nid yw'r elusen yn derbyn cefnogaeth ariannol cenedlaethol nag unrhyw nawdd gan y Llywodraeth ac felly'n ddibynnol ar garedigrwydd a haelioni eu gwirfoddolwyr i gyflawni eu nod. Mae'r criw o wirfoddolwyr wedi ymroi i ymladd cancr prostate, addysgu a chodi ymwybyddiaeth, ceisio offer, ariannu ymchwil yma yng Nghymru a chefngoi addysg y proffesiwn meddygol. Mae ymwybyddiaeth yn arbennig o bwysig yn y dyddiadu cynnar gan nad oes unrhyw symptomau i gancr prostate, ond mae 99% siawns o wellhad. Mae dynion angen deall am y profion sydd ar gael a dibynadwyedd y profion yma. Mae cancr prostate dynion yn cipio 12,000 o fywydau pob blwyddyn ym Mhrydain gyda hyd at 32,000 diagnosis o achosion newydd. Mae cancr prostate yn effeithio un dyn o bob 8 yng Nghymru ac mae’r risg yn cynyddu i un allan o 3 os oes hanes o’r cyflwr yn y teulu. Hyd yn hyn mae Prostate Cymru wedi cefnogi triniaeth GreenLight Laser ar gyfer achosion 'benign' ac wedi ariannu hyfforddiant llawfeddygon i ddefnyddio'r robot Da Vinci - triniaeth cancr ymylol.

Mae Hufenfa De Arfon yn ymwybydol iawn bod cancr prostate dynion yn glefyd cyffredin yng Nghymru ac mae codi ymwybyddiaeth am y cyflwr ac ariannu ymchwil i ymladd y clefyd yn hanfodol. Mae Hufenfa De Arfon yn falch o allu cefnogi ac ariannu y tîm ymroddedig yn Prostate Cymru a'u gweithgareddu a gobeithir bydd y cyfraniad yma yn gwneud ychydig o wahaniaeth. Staff ddewisodd yr elusen yma a diolchir iddynt am eu cefnogaeth a haelioni tuag at y raffl Nadolig eto eleni. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i'n cyflenwyr sydd bob amser yn barod i gefnogi ein hymgyrchoedd elusenol: MWL, CHR Hansen, Ap Thomas Architect, Brooktherm, County Milk Products, Comcen, Ashley Hughes Cyf, Gemak, Plus Packaging, Anglesey Commercials, Taro Deg, Danisco, Norseland, Calibre Control, Tetra Pak, Albion Systems, Encase and Q-Pulse

Cyflwynodd Hufenfa De Arfon y siec yn swyddogol i Dai John, Pennaeth Ymwybyddiaeth Prostate Cymru. Arsywlodd “Mae'r elusen yn ddiolchgar iawn am y cyfraniad ffantastig yma a bydd yn sicr yn helpu dynion Cymru."

Mae Prostate Cymru yn darparu sesiynau codi ymwybyddiaeth rhad ac am ddim a chyngor am arferion iechyd a diagnosis buan; gwelir manylion ar eu gwefan Prostate Cymru Os oes gennych unrhyw bryderon am iechyd prostate gallwch gysylltu'r Nyrs Arbenigol ar 0800 470 200 neu Prostate Cymru ar 02920 340029.