Her Y Wyddfa
DDdiwrnod yn hwyrach na’r bwriad oherwydd bod rhagolwg y tywydd yn well, ddydd Sul, 2il Hydref daeth aelodau o staff, ffrindiau a theulu ynghyd yn Llanberis i wynebu her Y Wyddfa er bydd yr elusennau haeddianol Cronfa Cofio Robin a DPJ Foundation.
Aeth y criw i fyny llwybr Llanberis sy’n dilyn y rheilffordd; yn ôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri dyma’r llwybr mwyaf diogel i grwpiau, ond yr hiraf ac yn gylchdaith o oddeutu 9 milltir ac yn uchder o 3,078 troedfedd. Dyfarnir y llwybr yma yn daith galed ac yn un sydd angen ymdrech mawr, felly yn her i unrhyw un.
Er y tynfa i gamu ar y trên rhoddodd yr haul rywfaint o hwb i barhau ymlaen gyda’r daith enbydus oedd yn eu wynebu. Am weddill y diwrnod roedd y tywydd yn anghyson fel sy’n gyffredin ar y Wyddfa gyda tharth a niwl yn mynd a dod, ond am y rhan fwyaf cafwyd hindda teg gyda phawb yn gwerthfawrogi’r golygfeydd anhygoel pan yn bosib. Roedd yn daith galed ond ystyfnigrwydd a phenderfyniad drechodd a chyrhaeddodd pawb y brig.
Mae Andy Goswell, Pennaeth Cynhyrchiant Caws yn rhedwr brwd a chychwynnodd ef gryn amser cyn y gweddill gan drechu’r Wyddfa mewn 2 awr 15 munud. Dywedodd, “fel arfer dwi’n rhedeg am hwyl ac i gadw’n heini ond roedd hwn yn teimlo’n sbesial yn gw’bod ei fod at elusen ac achos da.”
Daeth Ryan Steadman Rheolwr Storfa a Nikki Williams, Cynhorthwyydd Cyfrifon efo'u cwn a dywedodd Ryan ei fod yn "ffordd dda i Jini ddathlu ei phenblwydd yn ddwy oed mewn chydig ddyddiau”
Ysgafnhaodd y cerddediad ac roedd yn llawer mwy bywiog wrth ddynesu yn ôl at bentref Llanberis gyda phawb yn llawenhau eu bod wedi cyrraedd yn ôl mewn un darn ac yn hapus iawn o fod wedi cwblhau’r her. Roedd y cyhyrau braidd yn anystwyth a chlywyd ambell i sylwad fel “byth eto” ond roedd pawb yn gytun bod pob un cam yn werth yr ymdrech i godi arian at achosion mor wych.
Diolch enfawr i bawb a wynebodd yr her, ac i aelodau a chyflenwyr ffatri HDA i gyd am eu cefnogaeth a’u haelioni tuag at helpu ni i godi arian tuag at Cronfa Cofio Robin, elusen sefydlwyd i gefnogi unigolion ieuanc sy’n rhagori mewn chwaraeon; a’r DPJ Foundation elusen sefydlwyd i gefnogi iechyd meddwl yn y gymuned ffermio.