Hufenfa De Arfon yn ffarwelio â dau aelod o staff hirsefydlog

Ffarweliodd y cwmni llaeth cydweithredol Cymreig, Hufenfa De Arfon â dau aelod o staff hirsefydlog yn ddiweddar, Trevor Morris, mecanic garej Hufenfa De Arfon ar ôl union 50 mlynedd yn y swydd, a Maldwyn Davies ar ôl chwarter canrif.

Gadawodd Trevor Morris, o Chwilog yr ysgol i wneud cwrs technegydd moduron City & Guilds ym Mangor cyn ymuno â Hufenfa De Arfon yn 17 oed yn 1973. Wrth hel atgofion am ei ddiwrnod cyntaf dywedodd Trevor,

“Fy swydd gyntaf oedd golchi lori yn barod ar gyfer M.O.T, ac roedd yn rhaid ei bod yn sgleinio i Charlie, oedd yn dipyn o her. Roedd gweithio yn y garej yn ffordd dda i mi ddysgu sgiliau newydd ac rwy’n ddiolchgar am byth am y cyfle a gefais i gwblhau fy mhrentisiaeth gyda’r hufenfa ac astudio yn y coleg ar yr un pryd. I have thoroughly enjoyed my time here and I wish the creamery the best of luck in the future, and I see it going from strength to strength."

Ymunodd Maldwyn, o Forfa Nefyn, â’r hufenfa i weithio yn yr adran bacio i ddechrau, ond mewn amser byr symudodd i gynorthwyo yn y llaethdy potelu llaeth ac yna i’r tîm cynhyrchu caws. Dywedodd Maldwyn,

“Rydw i wedi gweld llawer o newid, gwelliannau a thwf o fewn y 25 mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn werth chweil. Hoffwn hefyd ddiolch i’r cwmni a dymuno llwyddiant i bawb yn y dyfodol.”

Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon,

“Mae gwasanaeth hir Trevor a Maldwyn wir yn gyflawniad anhygoel, ac ar ran eu cydweithwyr, ein Cyfarwyddwyr a’n haelodau hoffem ddiolch i Trevor a Maldwyn am eu holl waith dros y fenter gydweithredol, a dymuno’r gorau iddynt yn eu hymddeoliadau haeddiannol.”

Dywedodd Elwyn Jones, Rheolwr Cydymffurfiaeth ac Ysgrifennydd Cwmni Hufenfa De Arfon,

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Trevor a Maldwyn, gweithwyr mor ymroddgar, dibynadwy a pharod. Nid oes amheuaeth y byddwn yn gweld eu heisiau. Ar ran y cwmni, hoffem ddiolch i’r ddau am eu gwasanaeth a hefyd dymuno’r gorau iddynt yn eu hymddeoliadau.”