Hufenfa De Arfon yn chwalu eu record codi arian ar gyfer elusen

Cododd prif gwmni cynnyrch llaeth Cymru, Hufenfa De Arfon £1,000 i Ymchwil Canser Cymru drwy eu raffl Nadolig gan chwalu pob record flaenorol.

A hwythau wedi ymrwymo i les cymunedol, mae'r cwmni cydweithredol ffermwyr wrth eu bodd gyda'r swm a godwyd. Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon, Alan Wyn Jones, “Mae ein raffl Nadolig flynyddol yn ddigwyddiad mawr i’r holl staff ac mae llawer o frwdfrydedd.

“Roedd nifer o wobrau gwych - poteli o win, siampên, jin, peiriant gwneud pizza, taleb M&S, peiriant gwneud hufen iâ, stemar bwyd, iPad Apple, llechen Galaxy, ffrïwr aer, teledu, hamper bwyd, seinydd parti karaoke, a hunangofiant Nigel Owens wedi’i lofnodi. Roedd y rhain i gyd wedi’u rhoi gan ein cyflenwyr a hoffem ddiolch iddynt am eu haelioni.

“Bydd yr arian a godwyd yn gymorth i hyrwyddo mentrau ymchwil hanfodol, cefnogi cleifion, ac yn y pen draw, gweithio tuag at ddyfodol sy’n rhydd o faich canser.”

Mynegodd Haf Williams, a drefnodd y raffl, ei diolch am y gefnogaeth aruthrol, ac ychwanegodd, “Mae’r ysbryd o roi dros gyfnod yr Ŵyl yn wirioneddol galonogol. Rydym yn ddiolchgar i’n gweithwyr a’n cyflenwyr am eu haelioni wrth wneud y raffl Nadolig hon yn llwyddiant aruthrol. Bydd yr arian a godwyd yn cael effaith ystyrlon ar ymdrechion parhaus Ymchwil Canser Cymru.”

Dywedodd Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Ymchwil Canser Cymru, Iwan Rhys Roberts, “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r staff gwych yn Hufenfa De Arfon a’u cyflenwyr am gefnogi Ymchwil Canser Cymru. Rydym yn elusen Gymreig annibynnol a’r unig elusen sy’n llwyr ymroddedig i ariannu ymchwil canser yng Nghymru. Bydd y rhodd garedig a hael hon yn mynd tuag at helpu ein gwaith o drawsnewid bywydau pobl sy’n cael eu heffeithio gan ganser a lleihau effaith canser yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn, iawn.”