Hufenfa De Arfon yn cyflwyno cynhyrchion Dragon yn siopau Aldi ledled Cymru ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi

Bydd caws Dragon ar gael yn siopau Aldi ledled Cymru fis Mawrth eleni mewn pryd i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Yn ddiweddar, mae cwmni llaeth cydweithredol mwyaf Cymru, Hufenfa De Arfon, wedi sicrhau bod Dragon yn cael ei ddosbarthu i holl brif archfarchnadoedd Cymru gyda’u partneriaeth ddiweddaraf ag Aldi.

Gyda dros 70 o siopau Aldi ar draws Cymru a’r gororau, mae sicrhau bargen gyda’r gadwyn archfarchnadoedd ryngwladol enwog yn cadarnhau safle Dragon ymhellach yn y sector manwerthu.

Dywedodd Nick Beadman, Pennaeth Masnachol Hufenfa De Arfon, “Rydyn ni’n hynod falch o gyflwyno Dragon i gynulleidfa ehangach trwy ein partneriaeth ag Aldi. Mae'r ehangu hwn i holl brif archfarchnadoedd Cymru nid yn unig yn cynyddu argaeledd Dragon ond hefyd yn cefnogi ffermwyr Cymru ac yn hyrwyddo treftadaeth laeth gyfoethog Cymru. Mae’r bartneriaeth gyda’n adwerthwyr yn adlewyrchu ymrwymiad ar y cyd i ansawdd, cymuned a chynaliadwyedd.”

Wedi’i greu gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau a ryseitiau traddodiadol, mae Dragon yn ymgorffori treftadaeth gyfoethog a blasau cryf Cymru ac mae’n dyst i ymrwymiad cwmni cydweithredol y ffermwyr i ansawdd a thraddodiad.

Daw Dragon â blasau traddodiadol Gymreig i gartrefi, ac mae’n ddelfrydol ar gyfer byrddau caws, coginio neu i’w fwynhau ar ei ben ei hun.

Ychwanegodd Julie Ashfield, Rheolwr Gyfarwyddwr Prynu Aldi UK, “Rydyn ni’n falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Hufenfa De Arfon, i ddod â Dragon i’n holl gwsmeriaid ledled Cymru. Mae’r cydweithio hwn yn ein galluogi i gynnig cynnyrch unigryw o ansawdd uchel sy’n dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog Cymru, ac mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi.”