Dathlu Cerrig Milltir
Mae swmp o gerrig milltir staff arbennig iawn i’w dathlu yn Hufenfa De Arfon – ymddeoliad, dyrchafiadau a hir wasanaeth. Mawr yw diolch y cwmni llaeth cydweithredol i’w staff teyrngar ac rydym yn falch iawn bod llawer ohonynt wedi mwynhau cyfnodau hir o wasnaeth.
Ar ôl 33 mlynedd yn yr Hufenfa, mae’n drist iawn gan Hufenfa De Arfon orfod dweud ffarwel wrth ei Safonwr Caws, Dic Mann. Dyma aelod amhrisiadwy o’r tîm gan fod Dic wedi safoni ac edrych ar ôl ein caws gyda gofal dros y blynyddoedd i sicrhau bod caws Cymreig yr Hufenfa yn gyson o’r safon orau. Mae sgiliau safoni caws Dic wedi derbyn cydnabyddiaeth y tu hwnt i’r Hufenfa ac mae wedi ei wahodd i feirniadu mewn nifer o ddigwyddiadau caws, yn cynnwys y Gwobrau Caws Rhyngwladol mawreddog. Bydd colled ar ôl Dic, ond edrychwn ymlaen nawr i weithio gydag Iwan Lloyd ei olynydd. Mae Iwan wedi gweithio gyda Dic yn ystod y flwyddyn olaf, felly mae wedi cael yr hyfforddiant gorau posib i fod yn safonwr caws heb ei ail yn y dyfodol.
O ran dyrchafiadau, mae aelod arall o staff hen-sefydlog, Elwyn Jones wedi ei benodi yn Rheolwr Ffatri. Mae Elwyn wedi gweithio i’r Hufenfa ers 1986 ac wedi symud ymlaen o fod yn gymhorthydd llaethdy dros dro i swyddi rheolaethol dros y blynyddoedd. Ef hefyd yw Ysgrifennydd y Cwmni a Rheolwr Adnoddau Dynol.
Aelodau eraill o staff sy’n dathlu hirwasanaeth i’r Cwmni yw Gareth Owen (Goruchwyliwr Peirianneg) a Peredur Williams (Rheolwr Maes Llaeth); y ddau yn nodi 20 mlynedd eleni.